Ar dy enw mae'r cenhedloedd, Yn nherfynau eitha'r byd, Yn rhoi goglud, gan ddymuno Gweled tegwch d'wyneb-pryd: Mae dy eiriau oll yn gywir, Llwon mawrion ydynt hwy; I'th sancteiddrwydd glân y tyngaist, 'Allsit dyngu i ddim oedd fwy. Bellach minnau'n ëon deuaf, Mi ymgrymmaf wrth dy dra'd, Ac erfyniaf am drysorau Wedi'u haddaw oll yn rhad: Rhyw drysorau heb eu mesur, Rhyw drysorau heb ddim trai, Rhyw ddyfnderoedd heb ddim gwaelod, Yn dy addewidion mae.William Williams 1717-91 Tôn [8787D]: Llangan (<1869) gwelir: Rhyw drysorau heb eu mesur |
At thy name the nations, at the Furthest bounds of the world, are Putting trust, while wishing To see the fairness of thy countenance: All thy words are true, Great oaths are they; By thy holy sacredness thou didst swear, Thou couldst not swear by anything that was greater. Henceforth even I shall come boldly, I shall bow at thy feet, And I shall petition for treasures All promised freely: Some treasures without measure, Some treasures without any ebbing, Some depths without any bottom, Are in thy promises.tr. 2019 Richard B Gillion |
|