Ar faes ein daear isel dir

(Y cynhauaf adref; neu alwad i'r Farn.)
Ar faes ein daear, isel dir,
Gwasgarwyd deuryw had yn wir;
  Lle'r hauwyd gwenith Crist yn gu
  Y taenwyd efrau'r gelyn du;
Y ddau a dyfant yma y'nghyd,
Nes delo barn
    ar deulu'r byd;
  Angylion gwynion, teg eu gwawr,
  I alw i mewn gynhauaf mawr!

Gwirionedd dwys-arswydus yw,
Bydd raid i bawb, - y meirw a'r byw,
  Mewn llawen wedd,
      neu brudd-der braw,
  Ymddangos yn y farn a ddaw;
Ymholed pob rhyw enaid byw,
Pa un a'i pur
    a'i ammhur yw?
  Cyn dyfod gwynion feibion gwawr
  I alw i mewn gynhauaf mawr.

Mae'n bryd ystyried, gan dristâu,
Am gyflwr enaid i barhau;
  Rhag bod yn un o'r chwerwon chwyn,
  Sy'n tyfu y'mhlith y gwenith gwyn;
Diflànna pob rhyw gysgod gau,
Mae byd o sylwedd yn neshau:
  Cyn hir daw meibion
      gwynion gwawr
  I alw i mewn gynhauaf mawr!

Rhai sydd â hawl mewn cyfiawnhâd,
Meddianant deyrnas
    bur eu Tad;
  Disgleiriant fel
      yr haulwen sy'
  Yn treiglo drwy'r ardaloedd fry:
Ystyried dyn,
    sy briddyn brau,
Fod oriau sobr yn nesâu;
  Cyn hir daw meibion
      gwỳnion gwawr
  I alw i mewn gynhauaf mawr!
Corph y Gaingc 1810

Tôn [MH 8888]: Luther (Martin Luther 1482-1546)

(The harvest home; or call to the Judgment.)
On the field of our earth, low land,
Two kinds of seed truly are scattered;
  Where is sown the wheat of Christ dearly
  Spread are the weeds of the black enemy;
The two shall grow here together,
Until judgment comes
    upon the family of the world;
  White angels, fair their dawn,
  To call in a great harvest!

Truth is intensely horrifying,
All must, - the dead and the living,
  In a cheerful condition,
      or the sadness of terror,
  Appear in the coming judgment;
Let every kind of living soul ask himself,
Which one of the pair
    whether pure or impure he is?
  Before the bright sons of the dawn come
  To call in a great harvest.

It is time to consider, with sadness,
The enduring condition of a soul;
  Lest one be one of the bitter weeds,
  Which is growing amongst the white wheat
Every kind of false shadow shall vanish,
A world of substance in drawing near:
  Before long the bright sons
      of the dawn will come
  To call in a great harvest!

Those with the claim in righteousness,
Shall possess the pure
    kingdom of their Father;
  They shall shine like
      the sunshine which is
  Trundling through the regions above:
Let man consider,
    who is a fragile lump of clay,
That the serious hours are drawing near;
  Before long the bright sons
      of the dawn will come
  To call in a great harvest!
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~