Ar groesbren brydnawn
Ar groesbren brynhawn
Ar groesbren pryd nawn

(Merch yr Amoriad)
  Ar groesbren brydnawn, 
  Cyfiawnder ga'dd Iawn,
A'r gyfraith anrhydedd 'run dydd;
  Trwy rinwedd y gwaed,
  Boddlonwyd y Tad,
Daw merch yr Amoriad yn rhydd.

  Anfeidrol yw'r fraint,
  Ddarparwyd i'r saint,
Trwy'r Duwdod a'r Dyndod yn Un;
  Brawd ffyddlon a gaed,
  Rhodd drosom ei waed,
O'i fodd daeth yn Geidwad i ddyn.

            - - - - -
(Merch yr Amoriad)
  Ar groesbren pryd nawn,
  Cyfiawnder gadd Iawn,
A'r gyfraith anrhydedd 'r un dydd:
  Trwy rinwedd y gwa'd,
  Boddlonwyd y Tad,
Daw Merch yr Amoriad yn rhydd.

  'Nol marw 'r y pren,
  I eiriol i'r nen
Esgynodd ei chadarn Fechnydd;
  Wrth orsedd y Tad
  Mae'n dadleu y gwa'd,
Daw Merch yr Amoriad yn rhydd.

  Er gwaeled yn awr
  Ei gwedd ar a llawr,
Fe'i gwelir yn ddysglaer ryw ddydd;
  Mewn gemwaith o aur,
  Cyfiawnder Mab Mair,
Daw Merch yr Amoriad yn rhydd.

  Yn uchel ei llef,
  Uwch engyl y nef
Yn seinio gorhoian y bydd,
  Heb flinder na phoen,
  O foliant i'r Oen,
Wnaeth Merch yr Amoriad yn rhydd.

            - - - - -
(Ffynnon Calfaria)
  Ar groesbren, brydnawn,
  Cyfiawnder gadd iawn,
A'r gyfraith anrhydedd 'run dydd;
  Trwy rinwedd y gwaed
  Boddlonwyd y Tad;
Mae merch yr Amoriad yn rhydd.

  Ar Galfari fryn
  Agorwyd cyn hyn
Ryw ffynnon ryfeddol ei rhîn;
  Hi hollol lanhâ
  Aflendid a phla,
Hi gàna yr Ethiop yn wyn.

  Y gwan mae'n gryfhau,
  Er cymmaint ei fai,
I sefyll wrth Sinai'n ddi-gryn;
  Mae'n symmud â'i hedd
  Fraw angeu a'r bedd,
A'u hofnau, heb adael yr un.
gryfhau, // ... fai :: gryfha, // ... bla

David Charles 1762-1834

Tonau [558D]:
Cefn-Bedd Llewelyn (Alfred P Morgan 1857-1942)
Edeyrn (<1876)
Hungerford (J J Waite / H J Gauntlett)

gwelir: Ar Galfari fryn

(Daughter of the Amorite)
  On a wooden cross one afternoon,
  Righteousness got Satisfaction,
And the law dishonour the same day;
  Through the virtue of the blood,
  The Father was satisfied,
The daughter of the Amorite came free.

  Immeasurable is the privilege,
  It was prepared for the saints,
Through the Divinity and Humanity as One;
  A faithful Brother was got,
  He gave for us his blood,
Voluntarily he came as a Saviour to man.

                - - - - -
(Daughter of the Amorite)
  On a wooden cross one afternoon,
  Righteousness got Satisfaction,
And the law honoured the same day:
  Through the merit of the blood,
  The Father was satisfied,
The Daughter of the Amorite will come free.

  After dying on the tree
  To intercede to the sky
Her firm Surety arose;
  By the throne of the Father
  He is pleading the blood,
The Daughter of the Amorite will come free.

  Although so poor now
  Her condition on the earth,
She is to be seen radiant some day;
  In jewellery of gold,
  The righteousness of Mary's Son,
The Daughter of the Amorite will come free.

  Higher her cry,
  Above the angels of heaven
Sounding a jubilation she shall be,
  Without grief or pain,
  By the praise of the Lamb,
The Daughter of the Amorite was made free.

                - - - - -
(The Fount of Calvary)
  On a wooden cross one afternoon,
  Righteousness got Satisfaction,
And the law dishonour the same day;
  Through the virtue of the blood,
  The Father was satisfied,
The daughter of the Amorite is free.

  On Calvary hill
  Opened was before this
Some fount of wonderful virtue;
  It completely cleanses
  Uncleanness and plague,
It bleaches the Ethiopian white.

  The weak it is strengthening,
  Despite the extent of his fault,
To stand by Sinai unshaken;
  It is removing with its peace
  The terror of death and the grave,
And their fear, without leaving any one.
strengthening, // ... fault :: strengthening, // ... plague

tr. 2015,18 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~