Ar lan afon Babel bu'n taith

(Y Jiwbili)
Ar lan afon Babel
    bu'n taith,
  A'n dagrau yn gymysg â'i lli,
'R oedd ofn yn acenion ein hiath,
  A'r awel yn atsain ein cri;
Ond wele ni'n Seion yn byw
  Mewn rhyddid, llawenydd, a hedd,
Cawn esgyn i demel ein Duw
  Gan syllu ar degwch
      ei wedd.

Y delyn, fu'n gorwedd yn fud
  Ar gangau ŵylofus y coed,
Sydd bellach yn fywyd i gyd,
  A'i thannau mor fwyn ag erioed;
Mae'r dorf a waredwyd mewn hwyl
  Yn diolch am doriad y wawr;
I'r Arglwydd a'i ras y mae'r ŵyl,
  Yn un gwnaed y nefoedd a'r llawr.
Hugh Cernyw Williams (Cernyw) 1843-1937

Tonau [88.88D]:
Edom (Thomas Evans -1824)
Rhyl (J Ambrose Lloyd 1815-1874)

(The Jubilee)
On the bank of Babylon's river
    was our journey,
  And our tears mixing with the flow,
Fear was the accent of our language,
  And breeze the echo of our cry;
But see us in Zion living
  In freedom, joy, and peace,
We may ascend to our God's temple
  While gazing on the fairness
      of his countenance.

The harp, which was lying mute
  On the mournful branches of the trees,
Is now all life,
  And its strings as noble as ever;
The crowd which was scattered is in tune
  Giving thanks for the break of dawn;
To the Lord and his grace is the festival,
  As one be made heaven and the earth.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~