Ar yrfa bywyd yn y byd a'i throeon enbyd hi, O ddydd i ddydd addawodd ef oleuni'r nef i ni. Fy enaid, dring o riw i riw heb ofni briw na haint; Yn ôl dy ddydd y bydd dy nerth ar lwybrau serth y saint. Y bywyd uchel wêl ei waith ar hyd ei daith bob dydd, A'r sawl yn Nuw a ymgryfha a gaiff orffwysfa'r ffydd. O ddydd i ddydd ei hedd a ddaw fel gwlith ar ddistaw ddôl, A da y gŵyr ei galon ef fod gorau'r nef yn ôl. Wel gorfoledded teulu'r ffydd yn llafar iawn eu llef, Cyhoedded pawb o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.J T Job 1867-1938 Y Goleuad 1923
Tonau: |
On the course of life in the world And its dangerous turns, From day to day he promised Heaven's light to us. My soul, climb from height to height without fear of wound or disease; After thy day will be thy strength On the steep paths of the saints. The high life his work sees Along its journey every day And those who in God are strengthened Obtain the resting-place of the faith. From day to day his peace comes Like dew on a quiet meadow, And good the one who knows his heart That the best of heaven follows. Then let the family of the faith rejoice Very vocal their cry, let everyone publish from day to day His salvation.tr. 2008 Richard B Gillion |
|