Arglwydd cofia'r fron glwyfedig

(Trugaredd a Hedd)
Arglwydd, cofia'r fron glwyfedig
  Sydd â'i brwydrau'n chwerw iawn;
Rho Dy law i'r gwan blinedig,
  Dangos feddyginiaeth lawn:
Dy drugaredd, Arglwydd mawr,
Ffyddo'n hedd i ni yn awr.

Cadw'n calon rhag amheuaeth,
  A chryfha yr egwan ffydd, -
Dangos ini'r iachawdwriaeth
  Dry y nos yn oleu ddydd:
Dy drugaredd, Arglwydd mawr,
Fyddo'n hedd i ni yn awr.

Llanw'n hysbryd â'th ddiddanwch,
  I'w dawelu dan y groes;
Arwain ni i'r pur hyfrydwch
  Sydd yn ddyfnach na phob loes:
Dy drugaredd, Arglwydd mawr,
Ffyddo'n hedd i ni yn awr.
Ben Davies 1864-1937

Tôn [878777]: Cassel (J Thommen)

(Mercy and Peace)
Lord, remember the wounded breast
  Which has its very bitter battles;
Give Thy hand to the weak exhausted one,
  Show full medical treatment:
Thy mercy, great Lord,
Will be peace to us now.

Keep our heart from doubt,
  And strengthen the weak faith, -
Show us salvation
  That turns night into the light of day:
Thy mercy, great Lord,
Will be peace to us now.

Flood the spirit with thy comfort,
  To quieten it under thy cross;
Lead us to the pure delight
  That is deeper than every anguish:
Thy mercy, great Lord,
Will be peace to us now.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~