Arglwydd grasol! dyro'th Ysbryd - Dysg im' lefain, "Abba, Dad!" Rho dystiolaeth o'm mabwysiad, Gâd im' brofi'th gariad rhad; Dyro wir foddlonrwydd imi Fod fy enaid yn dy hedd; Llanw f'ysbryd â thangnefedd Cyn im' fyned i fy medd. Dyro'th hoff gymdeithas imi Tra b'wyf yn yr anial fyd; Tywys f'ysbryd tua'r bywyd, A bydd imi'n noddfa glyd: Gâd im' wledda gyda'th deulu - Gwledda ar dy gariad rhad; Yn y diwedd dwg fi'n dawel Draw i ddedwydd dŷ fy Nhad.Isaac Jenkins 1812-77
Tonau [8787D]: |
Gracious Lord, grant thy Spirit! - Teach me to cry, "Abba, Father!" Give the witness of my adoption, Let me experience thy free love; Grant a true satisfaction to me That my soul is in thy peace; Flood my spirit with tranquility Before I go to my grave. Grant thy lovely fellowship to me While I am living in the desert world; Lead my spirit towards the life, And be to me a secure refuge: Let me feast with thy family - Feast on thy free love; In the end bring me quietly Yonder to the happiness of my Father's house.tr. 2017 Richard B Gillion |
|