Arglwydd grasol dy haelioni
Arglwydd grasol mae'th haelioni

Arglwydd grasol, dy haelioni
  Sy'n ymlifo drwy y byd,
A'th drugaredd sy'n coroni
  Dyddiau'r flwyddyn ar ei hyd:
    Dy ddaioni
  Leinw'r ddaear fawr i gyd.

Rhoddi 'rwyt dy drugareddau
  Fel y golau glān bob dydd,
A'th fendithion i'n hanheddau
  Yn sirioli'n bywyd sydd:
    O'th gynteddau
  Rhoddwn ninnau foliant rhydd.

            - - - - -

Arglwydd grasol mae'th haelioni
  Yn dylifo trwy y byd,
Mae'th drugaredd yn coroni
  Dyddiau'r flwyddyn ar ei hyd:
    Dy ddaioni
  Leinw'r ddaear fawr i gyd.

Daw y nef ā'i thrugareddau
  Fel y golau glān bob dydd,
A'th fendithion i'n hanheddau
  Yn sirioli bywyd sydd:
    O'th gynteddau
  Rhoddwn ninnau foliant rhydd.

Plyged dwyfol ymweliadau
  Liniau filoedd er dy fron
Plyged diolch ein serchiadau
  I'th addoli'r funud hon:
    Mae'th weiniadau
  Yn adlonni'r byd o'r bron.
mae'th haelioni // Yn :: dy haelioni // Sy'n
Mae'th weiniadau // Yn :: Dy weiniadau // Sy'n

Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) 1844-1905

Tonau [87.87.47]:
Clement / St Peter (alaw eglwysig)
Dwyfor (alaw Eidalaidd/Gymreig)
Feniton Court (E J Hopkins 1818-1901)
Peniel (Isaac Tucker 1761-1825)
St Garmon (E M Price 1816-98)

Gracious Lord, thy generosity
  Is flowing through the world,
And thy mercy is crowning
  The days of the year throughout them:
    Thy goodness
  Fills all the great earth.

Thou art bestowing thy mercy
  Like the clean light every day,
And thy blessings to our dwellings
  Which cheers our life:
    From thy courts
  We are rendering free praise.

               - - - - -

Gracious Lord, thy generosity is
  Flowing through the world,
Thy mercy is crowning
  The days of the year throughout them:
    Thy goodness
  Fills all the great earth.

Heaven with its mercies will come
  Like the clean light every day,
And thy blessings to our dwellings
  Which are cheering life:
    From thy courts
  We are rendering free praise.

Let divine visits bend
  Thousands of knees before thee
Let thanks bend our affections
  To worship thee this minute:
    Thy ministrations are
  Recreating the world entirely.
::
::

tr. 2008,09 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~