Arglwydd mor werthfawr yw fy mraint Y dy wir swper gyda'r saint, Er côf, ryw awr ar Galfari, I'r Iesu farw drosaf fi. Y bara hwn yn ddrylliau sy' Yn dangos corph fy Iesu cu; Ar bren y groes bu'r anwyl Grist, A'r Tad a'i drylliodd yno'n drist. Wrth wel'd y gwin 'rwy'n cofio'r gwaed Trwy'r hwn y hollol i'm glanhaed; Y gwaed a lifodd, roddodd rîn, O draed a dwylaw Mab y dyn. Crist ydyw bara 'mywyd mwy, Fy enaid, na newyna'n hwy; Mil gwell i'm mynwes i a'm min Ydyw ei gariad ef na gwin. Byth ni allasai byrddau'r byd, Ei allu a'i gyfoeth oll i gyd, Holl beraidd ffrwythau'r ddaear gron, Bwrcasu'r wledd ysprydawl hon. Daioni Crist, a'i rasawl rodd, O cydnabyddwn wrth ein bodd; Yn hulio'n bwrdd yn ngŵydd y byd, A'r nefawl seigiau gorau i gyd. Yn oll ei ddull anwylaidd ef, Cyflawnwn ni o flaen y nef, Ei ordinhad ar hyd ein hoes, Drwy gywir gred, gan godi'r groes. O byddwn dystion i Fab Duw, (Yr hwn fu farw ac sydd fyw:) Nes myn'd i deyrnas hardd ei Dad, Mewn hedd i wledd y newydd wlad.1805 Dafydd Owen (Dewi Wyn o Eifion) 1784-1841 [Mesur: MH 8888] |
Lord, how precious is my privilege In thy true supper with the saints, In memory, some hour on Calvary, That Jesus died for me. This bread in pieces is Showing the body of my dear Jesus; On the wood of the cross the dear Christ was, With the Father, who broke him there, sad. On seeing the wine I am remembering the blood Through which may I be completely cleansed; The blood which flowed, gave virtue, From the feet and hands of the Son of man. Christ is the bread of life henceforth, My soul, do not hunger in them; A thousand times better to my breast and to my lip Is his love than wine. Never could the tables of the world, Its power and its wealth altogether, All the sweet fruits of the round earth, Purchase this spiritual feast. The goodness of Christ, and his gracious gift, O let us recognise to our satisfaction; Spreading the table in the sight of the world, With all the best heavenly dishes. In all his tender means, Let us fulfil before heaven, His ordinance throughout our lifespan, Through true belief, while taking up the cross. O let us be witnesses to the Son of God, (Him who died and who is alive:) Until going to the beautiful kingdom of his Father, In peace to the peace of the new land.tr. 2016 Richard B Gillion |
|