Arglwydd, Ti wyt darian imi, A dyrchafydd mawr fy mhen; Ti yw'm hymffrost a'm gogoniant Ar y ddaear, yn y nen; Dan dy aden, gwnaf fy nyth, A diogel fyddaf byth. Gelwais arnat Arglwydd; Tithau A wrandewaist ar Dy was, Ac o fynydd Dy sancteiddrwydd Rhoddaist i mi help Dy ras; Minnau bellach, O fy Nuw, A'th foliannaf tra fwyf byw. Mi orweddais dan dy aden, Ac a hunais yn dy hedd, A deffroais wedi hyny, Yn y bore'n llon fy ngwedd; Llechaf dan dy gysgod Di, Yno mae fy ngobaith i. Iachawdwriaeth sydd yn eiddot Ti yn unig, Arglwydd mawr, Fel y gwlith disgyna'th fendith Ar Ddy bobl o'r nef i lawr; Cenir iti fawl di-lyth Ar delynau Sïon byth.William Rees (Gwilym Hiraethog) 1802-83
Tonau [87.87.77]: gwelir: Arglwydd aml yw'm trallodwyr |
Lord, Thou art a shield to me, And the great lifter of my head; Thou art my boast and my glory On the earth, in heaven; Under thy wing, I make my nest, And safe I shall be forever. I called upon thee Lord; 'twas Thou Who listened to Thy servant, And from the mountain of Thy holiness Thou didst give me the help of thy grace; I, then henceforth, O my God, Shall praise thee while ever I live. I lay under thy wing, And slept in thy peace I awoke after this, In the cheerful morn of my condition; I shall shelter under Thy shadow, There is my hope. Salvation there is with thee Thee alone, great Lord, Like the dew descends thy blessing Upon Thy people from heaven down; Unfailing praise shall be sung to Thee Upon the harps of Zion forever.tr. 2018 Richard B Gillion |
|