Arglwydd, tyred â'r newyddion Sydd yn gweithio llawenhau, Ac aed heibior noswaith dywyll O och'neidio a thristau, I mi'n glir wel'd y tir Brynwyd trwy ddioddefaint gwir. Gād i'm henaid lanio yno, Y mae'r tonau'n fawr eu grym, Ac ni all fy enaid ofnus Ddal eu pwysau anferth ddim: D'angeu drud, tra'n y byd, Fydd fy nghysur oll i gyd. O! na welwn gopa'r bryniau, Mae f'Anwylyd yno'n byw; 'Rwyf yn caru'r gwynt sy'n hedeg Dros fy Nghanaan hyfryd wiw: Fedd y llawr ddim yn awr Leinw le fy Arglwydd mawr.William Williams 1717-91
Tonau [8787337]: gwelir: Arglwydd edrych ar bererin |
Lord, bring the news Which causes rejoicing, And may the dark evening of Groaning and sadness pass, For me clearly to see the land Bought through true suffering. Let my soul land there, The waves are of great force, And my fearful soul cannot Bear their enormous pressure at all: Thy costly death, while in the world, Shall be all my comfort altogether. O that I might see the tops of the hills, There my Beloved is living; I love the wind that is flying Over my delightful, worthy Canaan: Earth below possesses nothing now That fills the place of my great Lord.tr. 2018 Richard B Gillion |
|