Atat, Arglwydd, trof fy ŵyneb, Ti yw f'unig noddfa lawn, Pan fo cyfyngderau'n gwasgu - Cyfyngderau trymion iawn; Dal fi i fyny 'ngrym y tonnau, Does ond dychryn ar bob llaw; Rho dy help, Dywysog bywyd, I gael glanio'r ochor draw. Neb is y nef ond Ti dy Hunan, Ddeil i fyny f'enaid gwan, 'Rwy'n diystyru'r holl greadigaeth, Fel peth diddim tlawd a gwan; Ac os rhoddi Di'th fendithion Imi, 'r annhelyngaf ddyn; Ti gai'n ol y cwbl roddaist I dy fynwes lān dy Hun. Ti gei mywyd, Ti gei f'amser; Ti gei 'noniau o bob rhyw; P'odd y beiddiaf gadw mymryn O fendithion pur fy Nuw? Ffrydiau'r nefoedd wen i waered, Tyn garcharor caeth i maes; Fe gaiff nef a daear glywed, Atsain gwaredigol ras. Ac am hyny mi ymdroaf 'Nawr yn ngallu mawr y nef; Mae pob llwybr wedi ei gauad Ond y llwybr ato ef; Mae allweddau nef ac uffern Acw'n hongian wrth ei glun, Ato'r af yn mhob caledi - Ceidwad y truenus ddyn!
Tunes: |
To thee, Lord, I turn my face Thou art my only full refuge Whenever distresses are pressing Distresses very heavy; Keep me up in the force of the waves, There is only terror on every hand; Give thy help, Prince of life, To get to land on the other side! No-one below heaven but Thee thyself, Shall hold up my weak soul, I am discounting the whole creation, As something worthless, poor and weak; And if thou givest thy blessing To me, the most unworthy man; Thou shalt get back the whole thou gavest To thine own holy bosom. Thou hast my life, Thou hast my time; Thou hast my talents of every kind; How will I stop keeping a fragment Of the pure blessing of my God? Streams of bright heaven downwards, Pull a captive prisoner out; Heaven and earth do hear, The echo of saving grace. And therefore I turn myself Now in the great power of heaven; Every path has been closed But the path unto him; The keys of heaven and hell are Yonder hanging by his thigh, To him I shall go in every difficulty - The Saviour of wretched man! tr. 2008,21 Richard B Gillion |
|