Awn, bechaduriaid, at y dwr A darddodd ar y bryn; Ac ni gawn yfed byth heb drai O'r afon loyw hyn. Mae'r Iechydwriaeth fel y môr Yn chwyddo byth i'r lan; Mae ynddi ddigon, digon byth, I'r truan ac i'r gwan. Mae yma drugareddau rhad I'r tlawd a'r llariaidd rai, A rhyw fendithion maith yn stôr, Sy fythol yn parhau. 'Does yma eisiau fyth yn bod, Trysorau gras yn llawn, Er maint yr yfed a'r glanhau Sy o fore hyd brynhawn. Nis blinwn ganu tra fom byw Yr oruchafiaeth hyn, Weithiodd ein Harglwydd un prynhawn Ar ben Calfaria fryn. Fe welir myrdd 'mhen gronyn bach, O'r dwyrain ac o'r de, Yn cydatseinio'n hyfryd am Ei ryfedd gariad E'. afon loyw hyn :: ffrydiau gloyw hyn Nis blinwn :: Ni flinwn Weithiodd ein Harglwydd :: Enillodd Iesu Sy o fore :: O fore
Tonau [MC 8686]:
gwelir: |
Let us go, sinners, to the water Which springs on the hill; And we may drink forever without abating Of that bright river. The salvation is like the sea, Surging forever towards the shore; There is sufficient in it, sufficient forever, For the wretched and the weak. There are here free mercies For the poor and those who are meek, And some great blessings in store, Which endure forever. There is here never any lack, Plentiful treasures of grace, Despite the extent of the drinking and the cleansing There is from morning until evening. We will not tire of singing as long as we live This conquest, Our Lord wrought one afternoon On the top of Calvary's hill. A myriad will be seen after a little while, From the east and from the south, Resounding together delightfully about His amazing love. that bright river :: those bright streams :: Our Lord wrought :: Jesus won There is from morning :: From morning tr. 2010,18 Richard B Gillion |
|