Awn at ei orsedd rasol ef, Dyrchafwn lef i'r lan; Mae'n gwrando pob amddifad gri, Mae'n rhoddi nerth i'r gwan. Anadla, f'enaid llesg, drwy ffydd, Mae'r ffordd yn rhydd at Dduw; Mae gras yn gymorth hawdd ei gael, A modd i'r gwael gael byw. Gerbron y drugareddfa lân Fe gân yr euog rai; Mae iachawdwriaeth Calfari Yn golchi pob rhyw fai. O flaen yr orsedd troir y nos, Trwy'r groes, yn oleu ddydd; Ni ddichon gallu uffern ddal Nac attal gweddi'r ffydd. Ehêd â'i golwg ar y gwaed, Clyw'r Arglwydd Ior ei chri; Nid oes a saif o'i blaen pan wel Farwolaeth Calfari.Richard Jones 1772-1833
Tonau: |
Let us go to his gracious throne, Let us raise a cry up; He is hearing every despairing cry, He is giving strength to the weak. Breathe, my faint soul, through faith! The way is free to God; Grace is a support easy to get, And a means for the wretched to get to live. Before the holy mercy-seat Sing the guilty ones; The salvation of Calvary is Washing every kind of fault. Before the throne is turned the night, Through the cross, into the light of day; Not sufficiently able is hell to hold Nor halt the prayer of the faith. It flies with its sight on the blood, The Sovereign Lord hears his cry; There is nothing stands before him when he sees The death of Calvary.tr. 2008 Richard B Gillion |
|