Baner y groes a fo o hyd

Baner y groes a fo o hyd,
  Yn chwyfio yn mhob cwr o'r byd;
Dewr filwyr a ddelont yn ddiri;
  I restru o dan ei harddlen hi.

    Awn yn rhydd, awn yn rhydd,
      Gwenu mae heulwen dêg y nef:
    Awn yn rhydd, awn yn rhydd,
      Baner y groes
          o hyd fo'n llef.

Baner y groes sydd faner wen,
  Ac nid oes cysgod ar ei llen;
Heirdd engyl ein Duw a'u daliant,
  I chwareu am byth mewn nefol fri.

Os ydyw y gelyn yma'n awr
  Daw'r adeg pan y syrth i'r llawr;
A Baner y groes yn gain ei gwedd,
  Adweinir gan seintiau
      gwlad yr hedd.
H M Edwards
Côr y Plant 1875

Tôn: Baner Y Groes
    (William Aubrey Powell c.1838-90)

The flag of the cross, may it be always
  Fluttering in every corner of the world;
Brave soldiers shall come without number;
  To enlist under its beautiful sheet.

    Let us go freely, let us go freely,
      Smiling is the fair sunshine of heaven:
    Let us go freely, let us go freely,
      May the flag of the cross
          always be our cry.

The flag of the cross is a bright flag,
  And there is no shadow on its sheet;
Beautiful angels of our God hold it,
  To play forever in heavenly esteem.

If the enemy is here now
  The time will come
      when he shall fall to the ground;
The flag of the cross of fine appearance,
  Shall to be recognized by the saints
      of the land of peace.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~