Bellach gorfoledda'n hyfryd

(Offeiriad yn y dwfr)
Bellach gorfoledda'n hyfryd,
'Rwyt ar ddianc o'th galedfyd,
  Fe agorwyd rhydiau'r afon,
  Mae'r arch yn myn'd o'th fìaen yn union,
Cadw afael, pan ddaw'r alwad,
Gadarn ar yr Arch-offeiriad;
  Dos i'r dw'r, cryf yw'r gwr,
Mae'n siwr o dy dderbyn,
Ti âi drosodd yn mhen gronyn
I mewn i'r nefol wlad ddiderfyn.
Grawn-Sypiau Canaan 1805

[Mesur: 88.88.88.6688]

gwelir:
  O ardaloedd nefol hyfryd
  'R wyf fi'n myn'd i wlad i drigo

(A Priest in the water)
Now rejoice delightfully,
Thou art about to escape from thy hardship,
  The streams of the river were opened,
  The ark is going before thee directly,
Keep a hold, when the call comes,
Firm on the High-priest;
  Come to the water, strong is the man,
He is sure to receive thee,
Thou shalt go over in a little while
Into the endless heavenly land.
tr. 2023 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~