fendithion iachawdwriaeth) Bendigaid fyddo'r awr Y clywais ddwyfol lef, O'r anial fyd, i'm galw i maes Tua hyfryd deyrnas nef; Fe gododd seren ddydd, A'i goleu sydd yn rhoi Cymylau t'wyllaf, tewaf, llawn, Yn fuan iawn i ffoi. Ces brofi dwyfol hedd Gyda gorfoledd mawr; 'Rwy'n cofio'r effaith - cofio'r pryd, Yn hyfryd hyd yn awr, Pan gefais wir ryddhâd, Trwy werthfawr waed fy Nuw; Ei gariad oedd yn felus braf, Fe'i caraf tra bwyf byw. A dyma'r cyntaf bryd Yr aeth y byd yn ddim, Y collodd hithau, uffern fawr, (O! hyfryd awr!) ei grym; Fy enaid aeth yn rhydd, Pan ddaeth y dydd i ben; Ni all cadwynau ddala awr Dros arfaeth fawr y nen. Dangoswyd im pryd hyn Y baradwysaidd wlad, A'r holl bleserau hyfryd sy O fewn i dŷ fy Nhad; Y manna nefol, cudd, Sy i'w gael, yn rhydd heb drai, Dros dragwyddoldeb yn y nef I'r dewisedig rai. 'Roedd pob gwageddol flys A gefais îs y nef Yn toddi, ac yn myn'd yn ddim, Yn ngrym ei gariad ef; Fe ddarfu pob rhyw flas Ar bleser cas ei ryw, Pan gefais yfed dyfroedd clir O ffynnon bur fy Nuw.William Williams 1717-91
Tonau [MBD 6686D]: |
the blessings of salvation) Blessed be the hour I heard a divine cry, From the desert world, to call me out Towards the delightful kingdom of heaven; The day star arose With its light that is making The darkest, thickest, full clouds, Very soon flee. I got an experience of divine peace With great jubilation; I am remembering the effect - remembering the time, Delightfully until now, When I got true freedom, Through the precious blood of my God; His love was sweetly good, Him shall I love while ever I live. And this is the first time That the world went to noting, And great hell also lost, (O delightful hour!) its power; My soul went free, When the day came to pass; Chains cannot hold now Against the great purpose of heaven. Shown to me at that time Was the paradisiacal land, And all the delightful pleasures that are Within the house of my Father; The heavenly, hidden manna, Which is to be got, freely without ebbing, For an eternity in heaven For the chosen ones. Every vain desire that I held under heaven, was Melting, and going to nothing, In the power of his love; Every kind of taste of pleasure Of a detestable kind vanished, When I got to drink clear waters From the pure found of my God.tr. 2020 Richard B Gillion |
|