Beth a dalaf am dy helaeth Drugareddau, O fy Nuw! Cym'raf phiol iachawdwriaeth, A chlodforaf d'enw gwiw: Gyda golud, dyro galon I ddefnyddio pob rhyw rodd, Fel gor'chwyliwr hael a ffyddlon, Trwy fy mywyd, wrth dy fodd. Nid yw'r cyfoeth, nid yw'r cyfan A feddiennir yn y byd, Ddim i'w cyfri'n addas gyfran, - Gwynt a gwagedd ŷnt i gyd: Gad im' feddu gwir santeiddrwydd, Llanwa f'enaid â dy hedd; Dwg fi'n llon i'r etifeddiaeth Ddidranc, bur, tu draw i'r bedd.Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-1850 Diferion y Cyssegr 1809 Tôn [8787D]: Cassel (Johann Thommen 1711-83) gwelir: Beth dâl cyfoeth nac anrhydedd |
What shall I pay for thy generous Mercies, O my God? I shall take the chalice of salvation, And I shall extol thy worthy name: With riches, grant a heart To use every kind of gift, Like a generous and faithful overseer, Throughout my life, to please thee. Neither wealth nor the whole That is possessed in the world, Is anything to be counted as a suitable portion, - Wind and vanity are they all: Let me possess true sanctification, Flood my soul with thy peace; Lead me cheerfully to the inheritance Undying, pure, beyond the grave.tr. 2024 Richard B Gillion |
|