Beth sy'n hyfryd? Araf rodio

Beth sy'n hyfryd? Araf rodio
  Ar hyd prydferth lwybrau'r ardd.
Syllu ar y teg flodionos,
  Yno ar eu gilydd chwardd;
Gweld y rhosyn wedi wisgo
  Yn ei fantell goch ei lliw;
Gweld y lili arno'n gwenu,
  Oll yn wyn o law ein Duw.

Mil hyfrytach ydyw gweled
  Blodau rhinwedd teg eu gwawr
Yn ymagor mewn grasusau,
  O dan nawdd y Garddwr mawr.
O mor brydferth! byth ni wywant -
  Gwrid anfarwol arnynt chwardd;
Ym mhen enyd fach fe'u gwelir
  Yn addurno'r nefol ardd.

Beth sy'n hyfryd? Gwrando cerddi'r
  Côr asgellog yn y llwyn;
Gwrando murmur nant y mynydd
  Pan yn lifo rhwng y brwyn:
Clywed miwsig yr awelon -
  Iach awelon llethrau'r bryn,
Wrth anadlu'n dirion heibio
  I'r briallu ger y llyn.

Mil hyfrytach ydyw clywed
  Côr o blant mewn melys hwyl,
Yn rhoi moliant i'r Gwaredwr
  Ac yn cadw sanctaidd wyl:
Y mae'r nodau per yn esgyn
  I awyrgylch nefol wlad,
Ac yn chwareu, chwareu tannau,
  Tannau calon fawr y Tad.
Anadnabyddus
Caniedydd yr Ysgol Sul 1899

Tôn [8787D]: Beth sy'n hyfryd?
    (Thomas Price 1857-1925)

What is lovely? Slowly to walk 
  Along the beautiful paths of the garden.
Staring at the fair flowerets,
  There laughing at one another;
Seeing the rose dressed
  In its red-coloured mantle;
Seeing the lily smiling on it,
  All white from our God's hand.

A thousand times more lovely is to see
  The flowers of virtue, fair their dawr,
Opening in graces,
  Under the protection of the great Gardner.
Oh how beautiful! They will never wither -
  An immortal blush laughing upon them;
After a little while they are to be seen
  Adorning the heavenly garden.

What is lovely? Listening to the music of the
  Winged choir in the grove;
Listening to the murmur of the mountain stream
  When flowing between the brush:
Hearing the music of the breezes -
  Healthy breezes of the slopes of the hill,
Breathing gently past
  The primroses by the lake.

A thousand times more lovely is to hear
  A choir of children in sweet tune,
Giving praise to the Deliverer
  And keeping holy festival:
The sweet notes are ascending
  To the atmosphere of a heavenly land,
And playing, playing chords,
  The chords of the great heart of the Father.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~