Beth yw'r achos bod fy Arglwydd?

1,2,3,4,5,6;  1,3,(4,5,7).
(Gweddi am Burdeb)
Beth yw'r achos bod fy Arglwydd
  Hawddgar grasol yn pellhau?
Yn guddiedig neu yn gyhoedd
  Mae rhyw bechod yn parhau:
    Tyrd yn awr, tor i lawr
  Fy anwiredd, fach a mawr.

Gallai f'Arglwydd yw sy'm hateb,
  Gallu ei hunan ydyw Ef;
Cariad nis gall ballu hefyd,
  Pe bawn geisio ganddo'r nef,
    Ond fy mai sy'n parhau,
  Hynny sy'n chwanegu'm gwae.

Chwilia, f'enaid, gyrrau 'nghalon,
  Chwilia'i llwybrau maith o'r bron,
Chwilia bob ystafell ddirgel
  Sydd o fewn i gonglau hon;
    Myn i maes bob peth cas
  Sydd yn atal nefol ras.

'Nawr 'rwy'n gwel'd, y mae'n ehedeg
  Mewn i'm calon, ac ì maes,
Fil o bethau sy'n wrthwyneb
  I egwyddor dwyfol ras:
    Uffern lid ynt i gyd
  Sydd yn erbyn f'enaid drud.

Dyma ryfyg yn ei allu,
  Dacw anghrediniaeth fawr,
Bob yn ail yn curo f'enaid,
  Yn cyttuno i'm cael i lawr:
    Dal fi i'r lan, 'dwyf ond gwan,
  Mi gaf gongcwest yn y man.

'R wyf yn ffeindio mil o elynion
  Yn fy mynwes yn parhau,
Oll am lethu f'enaid euog
  Bob yn un, a phob yn ddau;
    Nis oes dim ond dy rym
  All fod yn gynhorthwy im.

Dal fi'n gadarn hyd nes delo
  Amser hyfryd o ryddhau,
A chael, yn lle temtasiynau,
  Yn dragywydd dy fwynhau:
    Dyna'r pryd - gwyn fy myd,
  Derfydd fy ngofidiau i gyd.
f'enaid :: Arglwydd
gyrrau 'nghalon ::        
        the corners of thy heart
        search my heart
Chwilia'i :: Chwilia'm
o'r bron :: o'u bron
ystafell ddirgel :: rhyw 'stafell ddirgel

William Williams 1717-91

Tonau [8787337]:
Arnsberg / Neander (J Neander 1650-1680)
Dolfor / Sardis (alaw Gymreig)
Iorddonen (<1835)
Llanisan / Meine Hoffnung / Neander
    (J Neander 1650-1680)
Priscilla (Dafydd Jones 1743-1831)
Rheidol (John Roberts 1822-77)

(Prayer for Purity)
What is the reason that my Lord
  Amiable and gracious is moving away?
Hidden or public
  There is some sin persisting:
    Come now, break down
  My falsehood, small and large.

Powerful is my Lord who answers me,
  Powerful in himself he is;
Love that never can fade either,
  Even if heaven were to ask him,
    But 'tis my fault that endures,
  That is what adds to my woe.

Search, my soul, the corners of my heart,
  Search for the wide paths thoroughly,
Search every secret room
  Which is in these corners;
    May every hateful sin go out
  Which is halting heavenly grace.

Now I am seeing, there are flying
  Into my heart, and out,
A thousand things that are opposing
  The principle of divine grace:
    The wrath of hell are they all
  That are against my precious soul.

Here is presumption in its power,
  Yonder is great unbelief,
Alternately beating my soul,
  Agreeing to bring me down:
    Hold me up, I am only weak,
  I shall get victory soon.

I am finding a thousand enemies
  Enduring in my breast,
All wanting to oppress my guilty soul
  All as one and all as two;
    There is nothing but thy force
  Can be a help to me.

Hold me firmly until there comes
  The delightful time of freedom,
And get, instead of temptations,
  Eternally to enjoy thee:
    That is the time - blessed am I,
  All my griefs shall perish.
my soul :: Lord
the corners of my heart ::        
        the corners of thy heart
        search my heart
Search its :: Search my
::
secret room :: kind of secret room

tr. 2009,20 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~