Bum heddyw gyd a'th bobl gu
'Rwyf heddyw gyda'th deulu di

(Nos Sabboth)
Bum heddyw gyd a'th bobl gu
Yn gwledda, O Dad o fewn dy dŷ:
  Ces heddyw brawf o'r ymborth brâs
  A drefnodd rhâd anfeidrol râs.

Mor felus yw'th gymdeithas Di
Dros ennyd awr i'm henaid i!
  O! am y nefol gyflawn wledd
  Sy'n ngŵydd yr Oen
      ynglwad yr hedd!

Pan dderfydd fy Sabbothau i gyd,
A'm heinioes fer yn hyn o fyd,
  O Dad, dwg fi i'th breswyl fry
  I seinio clod yr Iesu cu.

             - - - - -

'Rwyf heddyw gyda'th deulu di,
Fy nefol Dad o fewn dy dŷ;
  I weled gwedd
      f'Anwylyd gwiw,
  Mor hoff ei lais!
      mor hardd ei liw!

Dy Sabbath santaidd yma sydd
Orphwysfa'm bron flinderus brudd;
  A'th demi lân sydd i mi le
  Cysurus 'nawr, fel cwr o'r ne'.

Gwyn fyd y llu o fewn i'r llen,
Lle na ddaw'r Sabbath byth i ben;
  Lle nad oes croes
      i weision Crist,
  Na gofid trwm, nac enaid trist.

Ond prynedigion
    gwaed yr Oen,
Yn dorf aneirif, bur
    heb boen,
  A'th ber glodforant o un fryd,
  Yn ddedwydd byth, mewn nefol fyd.

Pan dderfydd fy Sabbathau'i gyd,
A'm heinioes frau yn hyn o fyd,
  Dwg fi'n ddifraw
      i'th breswyl fry,
  I seinio clod fy Iesu cu.
Grawn-Sypiau Canaan 1829

Tôn [MH 8888]: Duke Street (John C Hatton 1710-93)

gwelir: O arwain fi trwy'r anial le

(Sabbath Evening)
Today I was with thy dear people,
Feasting, O Father, within thy house;
  Today I had a taste of the rich nutrition
  That infinite free grace planned.

How sweet is thy fellowship
For a brief hour to my soul!
  O for the complete heavenly feast,
  That is in the presence of the Lamb
      in the land of peace!

When all my Sabbaths vanish,
And my short life-span in this world,
  O Father, bring me to thy residence above
  To sound the acclaim of dear Jesus.

                - - - - -

I am today with thy family,
My heavenly Father, within thy house;
  To see the countenance
      of my worthy Beloved;
  How amiable his voice!
      How beautiful his appearance!

Thy sacred Sabbath here is
A resting-place to my sad, weary soul;
  And thy holy temple is to me is a place
  Comforting now, like a corner of heaven.

Blessed are the host within the curtain,
Where the Sabbath never comes to an end;
  Where there is no cross
      for Christ's servants,
  Nor heavy distress, nor a sad soul.

But those redeemed
    by the blood of the Lamb,
As a pure, innumerable throng,
    without pain,
  Praise thee sweetly with one intent,
  Happy forever, in a heavenly world.

When all my Sabbaths vanish,
And my fragile life-span in this world,
  Bring me without fear
      to thy residence above,
  To sound the praise of my dear Jesus.
tr. 2024 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~