Bydd lawen iawn ti, Ferch Seion, Bydd lawen iawn a chrechwena, Ferch Jerusalem, Wele dy Frenin yn dyfod attat. Cyfiawn ac Achybydd yw efe, O Byrth dyrchefwch eich penau, Ac ymddyrchefwch, Ddrysau Tragwyddol. Y mae efe yn llariaidd Ac yn marchogaeth ar ebol asyn, Brenin y gogoniant a ddaw i mewn, A Brenin y gogoniant a ddaw i mewn. Pwy, pwy, pwy yw Brenin y gogoniant hwn? Yr Arglwydd nerthol a chadarn mewn rhyfel. Arglwydd y lluoedd yw efe, Arglwydd y lluoedd efe yw Brenin y gogoniant hwn. Bendigedig yw'r Brenin sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd. Deued y Brenin a gwrandawed ddeisyfiad ei weision a'i bobl pan weddiant yn y tŷ hwn, A dyweded yr holl bobl Haleliwia, Amen.Tôn: Llawenydd Merch Seion Music Book of John W Williams Part 1 & Part 2 1852-3 |
Be thou joyful, Daughter of Zion, Be joyful and laugh, Daughter of Jerusalem, See thy King coming to thee. Righteous and a Saviour is he, O Portals lift up your heads, And lift yourselves up, ye Eternal Doors. He is humble And riding on an ass's foal, The King of glory shall come in, And the King of glory shall come in. Who, who, who is this King of glory? The Lord strong and mighty in battle. The Lord of hosts is he, The Lord of hosts - he is this King of glory. Blessed is the King who is coming in the name of the Lord. Let the King come and let him hear the supplication of his servants and the people when they pray in this house, And let all the people say Hallelujah, Amen.tr. 2015 Richard B Gillion |
|