Barna'n gyflawn beth yw'th gyflwr, O fy enaid, a pha glod Wyt ti'n ddwyn i'r mwyn Waredwr, A wyt heddyw dan ei nod? A ennillodd ef yn hollol Dy serchiadau oll yn nghyd, Gan d'ogwyddo yn wastadol Idd ei brisio'n fwy na'r byd? P'un ai llygredd brwnt a rhagrith Sy'n teyrnasu ynot 'nawr, Neu anfeidrol gref lywodraeth Deg a mwyn dy Arglwydd mawr? Beth yw dy ddifyrwch penaf Ar dy frau ddaearol daith, Boddio'r cnawd, ai boddio'r Ysbryd? Cofia'n fynych brofi'th waith. O am deimlo undeb nefol Rhwng fy enaid gwan o hyd A'r Gwaredydd cu, anfeidrol, Tra b'wyf yma yn y byd! O am gael amlygiad eglur, Arglwydd mawr, o'th nefol hedd; Yna deled poen a dolur, Af o'm bodd i fangre'r bedd!Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844 Tôn [8787D]: Diniweidrwydd (alaw Gymreig) |
Judge completely what is thy condition, O my soul, and what praise Art thou bringing to the gentle Deliverer, And art thou today under his note? And has he won completely All thy affections together, By thy leaning constantly On him whose price is more than the world? Which one: either filthy corruption and hypocrisy Is reigning in thee now, Or immeasurably strong government Fair and gentle of thy great Lord? What is thy chief delight On thy fragile earthly journey, To gratify the flesh, or to gratify the Spirit? Remember often to test thy work. O to feel a heavenly union Between my soul still weak And the dear, immeasurable Deliverer, While I am here in the world! O to have a clear revelation, Great Lord, of thy heavenly peace; Then let there come anguish or pain, I go from my pleasure to the site of the grave!tr. 2008 Richard B Gillion |
|