B'le trof b'le'r af wael euog ddyn

("Af at y Brenin.")
B'le trof, b'le'r af,
    wael euog ddyn,
O Dduw, ond atat ti dy hun?
  'Rwyf wedi penderfynu'n lān,
  Os marw, marw o dy flaen.

Y mae teyrnwialen auraidd gras
Yn estynedig eto'i maes;
  Arwydd i ddyn, mai 'wyllys Duw
  Yw maddeu'i fai,
      a'i gadw'n fyw.

Os derfydd byth am danaf fi,
Wrth ddrws trugaredd bydd fy nghri;
  Os marw wnaf, caiff hyny fod
  Lle na bu farw neb erioed.
Cas. o dros 2000 o Hymnau (S Roberts) 1841

[Mesur: MH 8888]

("I shall go to the King.")
Where shall I turn, where shall I go,
    a poor, guilty man,
O God, but unto thee thyself?
  I have completely decided,
  If I die, I die before thee.

The golden sceptre of grace is
Extended forth still;
  A sign to man, that the will of God
  Is to forgive his fault,
      and keep him alive.

If it be all over for me,
At the door of mercy shall be my cry;
  If die I shall, this shall get to be
  Where none every died.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~