a Gwaredigaethau o Glefydon, &c.) Bum mewn llawer o flinderau Yn llwyr gredu na ddoi'r dydd, Byth y cawn o'm cyfyngderau, A'm caethiwed dd'od yn rhydd: O helbulon uwch rhifedi, E'm gwaredodd llaw fy Nuw; Iddo'n llon, a gofiais roddi Cynnar fawl, yn daliad gwiw? Lawer gwaith ar wely galar, Pan mewn arswyd brenin braw, Bum am bechod yn edifar, Ac yn wylo'n drist heb daw, - I fy Nuw yn addunedu, Os cawn eilwaith fwyn wellhad, Cai fy nghamrau ddidwyll harddu Beunydd ei Efengyl fâd. Wedi cael ymwared tirion, Trwy drugaredd hael fy Nuw; A gyflewnais f'addewidion, Wrth ei fodd trwy ddoethgar fyw? Erchyll lwybrau plant drygioni, Sydd yn ffiaidd iawn eu llef, A adewais, i gael rhoddi Gwir ogoniant iddo Ef? Llawer deg sy'n cael diangfa, O drwm glefyd blin ei loes, - Prin o ddeg mae un yn coffa Am y llaw yn rhydd a'i rhoes: Wedi unwaith ail gyrhaeddyd Hen arferol ffyrdd y byw, Bach y nifer sy'n dychwelyd Yn eu hol i foli Duw.Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846 [Mesur: 8787D] |
and Deliverance from Diseases, &c.) I was in many afflictions Completely believing the day would not come, Ever that I would get from my straits, And my captivity to come free: From troubles above numbering, The hand of my God delivered me; To him cheerfully, did I remember to give Early praise, as a worthy payment? Many a time on a bed of lamentation, When in horror of the king of terror, I was for my sin repenting, And weeping sadly without coming, - To my God promising, If I get again dear health, My steps would get sincerely to beautify Daily his esteemed Gospel. Having got tender deliverance, Through the generous mercy of my God; Did I fulfil my promises, To his satisfaction through wise living? The horrible paths of the children of evil, Which have a very detestable cry, Did I leave, to get to walk True glory unto Him? Many a ten are getting an escape, From a heavy disease with wearying anguish, - Scarcely from ten is there one who remembers About the hand giving what it gave: After once a second time reaching The old usual ways of living, Small the number who are returning Back to praise God.tr. 2016 Richard B Gillion |
|