Bwyd i'r enaid bara'r bywyd

Bwyd i'r enaid, bara'r bywyd,
Gras i'r corff,
    a maeth i'r ysbryd,
  Lamp i'r droed,
      a ffrwyn i'r genau,
  Yw Gair Duw,
      a'r holl 'Sgrythurau.

Y Gair yw'r had
    sy i'n hatgenhedlu
Yn blant i Dduw,
    yn frodyr Iesu,
  Yn deulu'r nef,
      yn deml i'r Ysbryd,
  Yn wir drigolion tir y bywyd.

Heb y Gair ni ellir 'nabod 
Duw, na'i natur, na'i lān hanfod, 
  Na'i Fab Crist, na'r sanctaidd Ysbryd,
  Na rhinweddau'r Drindod hyfryd.

Crist sy'n erchi it' lafurio
Am y Gair, a'th draed a'th ddwylo,
  Mwy nag am y bwyd a dderfydd, 
  O chwenychi fyw'n dragywydd. 

Gwerth dy dir, a gwerth dy ddodrefn,
Gwerth dy grys oddi am dy gefn,
  Gwerth y cwbwl oll sydd gennyd,
  Cyn y b'ech
      heb Air y bywyd.

Gwell nag aur, a gwell nag arian,
Gwell na'r badell fawr na'r crochan;
  Gwell dodrefnyn
      yn dy lety 
  Yw'r Beibl Bach
      na dim a feddi.
Rhys Prichard 1579-1644

[Mesur: 8888]

Food for the soul, the bread of life,
Grace for the body,
    and nourishment for the spirit,
  A lamp for the foot,
      and reigns for the mouth,
  Is the word of God,
      and all the scriptures.

The word is the seed
    that regenerates us
As children for God,
    as the brothers of Jesus,
  As the family of heaven,
      as a temple for the Spirit,
  As true inhabitants of the land of life.

Without the word God cannot be known,
Or his nature, or his holy essence,
  Nor his Son Christ, nor the holy Spirit,
  Nor the merits of the delightful Trinity.

'Tis Christ who commands that thou labour
For the word, with thy feet and thy hands,
  More than for the food that perishes,
  O thou who dost desire to live eternally.

Sell thy land, and sell thy furniture,
Sell thy shirt from off thy back,
  Sell the whole, all that thou hast,
  Before thou woulds't be
      without the word of life.

Better than gold, and better than silver,
Better than the big pan or the pot;
  A better piece of furniture
      in thy lodging
  Is the little Bible
      than anything thou possessest.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~