Bygythiodd Duw â drygfarn drom

(Duw yn Bwgwth Barn - y flwyddyn 1829)
Bygythiodd Duw â drygfarn drom,
  Eleni attom etto,
Gan daro'r ddaear yn ei ddig,
  A chadduf i'w gorchuddio.

Ofnasom fod ei ŵg yn dal,
  Er dïal ar ein daear,
A'i bod yn agos gyd a ni
  I waeddi'n rhŷ ddiweddar.

Bygythiodd fraenu ffrwyth ein tir,
  Ei ŵg fu'n hir yn aros;
Bod ein pechodau, blin eu bloedd,
  Mor uchel, oedd yr achos.

Rhoi hin ddryc-hinog, wlawog, wleb,
  Am bechu'n wyneb uchel,
Ac wedy hyny, am ryw hyd,
  Rhoi tywydd hyfryd tawel.

Fe fu'n ein bygwth efo barn,
  Dros aml ddarn o ddiwrnod,
I wel'd, trwy droi y wlad yn wleb,
  A ddeuai neb i'w 'nabod;

A galw Naf i gilio'n ol,
  Rhag rhoi'n daearol doraeth,
Sef pydru ffrwyth ein maesydd mwy,
  Yn benaf trwy wlybaniaeth.

Er iddo godi eleni ei law
  'N bur uchel i'n brawychu,
'Roedd yn ei galon, dirion Dad,
  Ryw fwriad edifaru.

'Rol t'rawo'n ysgafn, troi yn ol,
  Gwneyd peth o ol ei wialen,
Ond nid ein llwyr ddyfetha fu; -
  Ehangu at ein hangen.

Danfonai o'i gymmylau mawr
  O wlaw i lawr laweroedd,
Fel i droi'n dom ein cnydau da,
  A'u difa gyda dyfroedd.

Ond buan gwed'yn rhoddi'r hin
  Gynnefin i'w gynafa,
Rhag rhoddi gormod in' o gur,
  Cyn cael yn bur ein bara.

Ond wele eleni i ni lwydd,
  Sef Iesu'n rhwydd yn rhoddi,
Yd heb ei fraenu gan yr hin
  Sydd genyn i'n digoni.

Boed tyner sŵn o dan y sêr,
  Gan lawer, Haleluia;
Mawl enw'n Tad
    a lanwo'n tir,
  A seinio'n hir, Hosanna.

Pob perchen enaid, parchu'r Naf
  Yn uchaf f'o'n chwennychiad,
A boddio'n Iôr y byddom ni,
  Heb oeri yn ein bwriad.

Duw yw Efe, da iawn ei fod
  Heb roddi dyrnod arnom,
Gan roddi barn i'r gradd neu'r pwys
  Mor ddwys ag yr haeddasom.

Pob enaid byw, i'n Duw, O! doed,
  I'w enw rhoed anrhydedd;
Na chym'rwn ffrwyth ein maesydd mwy
  I'w wario trwy anwiredd.

Clodforwch Dduw, angylion nef,
  Moliennwch ef, uwchafion;
Mawl llon i'r tâd fo'n llenwi'n tir,
  'R un sylwedd i'r isolion.
Edward Jones 1761-1836
Caniadau Maes y Plwm 1857

[Mesur: MS 8787]

(God Threatening Judgment - the year 1829)
God threatened with heavy condemnation,
  Last year against us again,
By striking the earth in his wrath,
  With fog to cover it.

We feared that his frown would hold,
  For vengeance upon our earth,
And it would be near with us
  To shouting too late.

He frown, that remained long, threatened
  To spoil the fruit of our land;
That our sins, grievous their shout,
  So loud, was the cause.

Giving tempestuous, rainy, wet weather,
  For the sinning of our haughtily,
And after that, for some length,
  Giving delightful, quiet weather.

He was threatening us with judgment,
  Over many a part of a day,
To see, through turning the land wet,
  That none would some to know him;

And call the Master to draw back,
  From giving our earthly abundance,
To rot the fruit of our fields evermore
  That is, chiefly through wetness.

Although he raised his hand this year
  Fully high to frighten us,
There was in his heart, of a tender Father,
  Some intention to relent.

After striking us lightly, turning back,
  Making something of the mark of his rod,
But completely destroy us he did not; -
  Giving generously to our needs.

He sent down from his great
  Clouds of rain many times,
As to turn heavily our good crops,
  And destroy them with waters.

But soon after, giving the weather
  Suitable for its harvest,
Lest he give us too much of a beating,
  Before getting fully our bread.

But see this year, our succeeding,
  That is, Jesus freely giving,
Corn without its spoiling by the weather
  That we have to suffice us.

May the tender sound from under the stars
  Be from many, Hallelujah;
May the praise of our Father's name
    fill our land,
  And be sounding long, Hosanna.

Every possessor of a soul, may revering 
  The Lord in the highest be our desire,
And pleasing our Sovereign may we be,
  Without cooling in our intention.

God is he, very well is he
  Not putting a stroke upon us,
By giving to the degree or the weight
  So intensely as we deserved.

O let every living soul, come to our God!
  To his name let honour be given;
Let us no longer take the fruit of our fields
  To spend it through falsehood.

Acclaim God, ye angels of heaven,
  Praise him, ye highest ones;
May cheerful praise be filling our land,
  The same theme for the most lowly ones.
tr. 2024 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~