Bynag beth a welodd llygad, Neu a deimlwyd is y rhod, Bynag beth a glywodd clustiau, Neu beth bynag sydd yn bod; Holl wrthddrychau'r ddaear isod, Mewn un fynyd ddarfu 'nghyd, Er pan ce's yr olwg gyntaf Ar Iachawdwr mawr y byd. Mae fy hwyliau heddyw'n chwareu 'N llawen yn yr awel bur; Ac 'rwy'n clywed swn caniadau Peraidd paradwysaidd dir: Ffarwel haul, a lloer, a thrysor, Ffarwel ddaear, ffarwel ddyn; Nid oes dim o tan yr wybren Ag sy'n fawr, ond Duw ei hun. Cauwch lygaid, nac agorwch, Ar un gwrthddrych īs y nef; Crafia, f'enaid, olwg syml Ar 'i ogoniant dwyfol Ef; Mae ei Hanfod, mae ei Enw, Mae ei Berson sanctaidd pur, Gymmaint uwch gwrthddrychau natur Ag yw'r nefoedd uwch y tir.William Williams 1717-91 Ton [8787D]: Edinburgh (F A G Ouseley 1825-89) gwelir: Dacw'r ardal dacw'r hafan |
Whatever an eye has seen, Or has been felt under the sky, Whatever ears have heard, Or whatever that is existing; All the objects of the earth below, In one minute shall vanish altogether, Since I got the first sight Of the great Saviour of the world. My sails today are playing Joyfully in the pure breeze; And I am hearing the sound of the sweet Songs of the paradisiacal land: Farewell sun, and moon, and treasure, Farewell earth, farewell man; There is nothing under the firmament That is great, but God himself. Close, ye eyes, open ye not, Upon any object under heaaven; Stare, my soul, a simple gaze Upon his divine glory; His Essence, his Name, His pure sacred Person is So much higher than the objects of nature As the heavens are above the land.tr. 2024 Richard B Gillion |
|