'Beth sydd imi yn y byd?
Beth sydd i mi yn y byd?

(Moli'r Meddyg)
Beth sydd i mi yn y byd?
Gorthrymderau mawr o hyd:
  Gelyn ar ol gelyn sydd
  Yn fy nghlwyfo nos a dydd;
Meddyg archolledig rai,
Dere'n fuan i'm iachau,
  Yna canaf am dy waed
  Nes meddianuu'r nefol wlad.

- - - - -
(Canu am y Gwaed)
'Beth sydd imi yn y byd,
Ond gorthrymder mawr o hyd?
  Gelyn, ar ôl gelyn, sydd
  Yn fy nghlwyfo nôs a dydd.

Meddyg archolledig rai,
Tyr'd yn fuan i'm hiacháu;
  Yna, canaf am Dy waed
  Nes meddianuu'r nefol wlad.

O! na allwn, tra f'a'wn byw,
Rodio bellach gyda'm Duw;
  Treulio f'oriau iddo'n llwyr
  O foreddydd hyd yr hwyr!

Iesu hawddgar! tyr'd i lawr,
Gâd im' wel'd Dy weddyn awr;
  Yna, canaf am Dy waed
  Nes meddianuu'r nefol wlad.

- - - - -
(Canu am y Gwaed)
1,(2,3),4.
Beth sydd i mi yn y byd?
Gorthrymderau mawr o hyd;
  Gelyn ar ôl gelyn sydd
  Yn fy nghlwyfo nos a dydd.
Meddyg archolledig rai,
Tyrd yn fuan i'm iacháu.

Clyw fi nghri, ffieiddiaf ddyn!
Pechod wrthyg sydd ynglun;
  Pechu yn erbyn gwaed y groes
  Ddarfu chwerwi dyddiau f'oes:
Cuddia fi'n dy ddwyfol glwy',
Fel na allwy' bechu mwy.

Mi feddyliais bod cyn hyn
Fry yn canu ar y bryn,
  Heddyw yng nglyn wylofain drist
  Clyw ngriddfannau, Iesu Grist;
Cariad digyfnewid rhad,
Golch fi etto yn y gwa'd.

O! na allwn, tra fawn byw,
Rodio bellach gyda'm Duw;
  Treulio f'oriau iddo'n llwyr
  O foreddydd hyd yr hwyr;
Cana am ei werthfawr waed
Nes meddianuu'r nefol wlad.
Tyrd yn fuan :: Dere'n fuan

Morgan Rhys 1716-79

(priodolwyd gan Aberth Moliant 1875 i William Williams 1717-91)

Tonau [7777]:
Elijah (Mendelssohn 1809-47)
German Hymn (Ignace Pleyel 1757-1831)
Nottingham (W A Mozart 1756-91)
St Bees (J B Dykes 1823-76)

Tôn [7777D]: Aberystwyth (Joseph Parry 1841-1903)

Tôn [77.77.77]: Gethsemane (Johann Schop c.1595-c.1664)

gwelir: O na allwn tra fawn byw

(Praising the Physician)
What do I have in the world?
Great afflictions always:
  Enemy after enemy that is
  Wounding me night and day;
Physician of wounded ones,
Come soon to heal me,
  Then I will sing about thy blood
  Until possessing the heavenly land.

- - - - -
(Singing about the Blood)
What do I have in the world,
But great afflictions always?
  Enemy, after enemy, who are
  Wounding me night and day.

Physician of wounded ones,
Come quickly to heal me;
  Then, I shall sing about Thy blood
  Until possessing the heavenly land.

O that I could, while ever I am alive,
Walk henceforth with my God!
  Spend my hours for him completely
  From morning until the evening!

Beautiful Jesus, come down!
Let me se Thy countenance now;
  Then I shall sing about Thy blood
  Until possessing the heavenly land.

- - - - -
(Singing about the Blood)
 
What do I have in the world?
Great afflictions always;
  Enemy after enemy that is
  Wounding me night and day.
Physician of wounded ones,
Come soon to heal me.

Hear my cry, most detestable man!
Sin to me is sticking;
  Sinning against the blood of the cross
  That has made bitter the days of my life:
Cover me in thy divine wound,
That I may be able to sin no more.

I thought that before now I would
Be above singing on the hil,
  Today in the vale of sad weeping
  Hear my groans, Jesus Christ;
Love unchanging, free,
Wash me still in the blood.

O that I could, while ever I live,
Walk henceforth with my God;
  Spend my hours for him completely
  From morn of day until the evening;
Sing about his precious blood
Until possessing the heavenly land.
::

tr. 2017 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~