Beth yw'r felys garol glywir?

Beth yw'r felys garol glywir
  Yn sain bêr
      yr Angel-gân,
Wedi i eraill hir noswylio
Gan fygeiliaid oedd y gwylio
  Yn y maes eu defaid mân?
Ail gydganu sêr y bore,
  Ail orfoledd meibion Duw,
Dechrau creadigaeth newydd,
Dechrau gwaith fydd yn dragywydd -
  Geni Ceidwad dynol-ryw.

Mawr ogoniant Duw lewyrchodd,
  Gan ddisgleirio fel y gwlith;
Duw yn Ddyn a ymgnawdolodd,
Y Disgleirdeb a ddychwelodd
  I babellu yn ein plith;
Arswyd lanwodd y bugeiliaid
  Yn y Presenoldeb gwiw,
Nes i'r Engyl sactaidd ddatgan
Ystyr lawn y Dwyfol amcan -
  Geni Ceidwas dyno-ryw.

Y mae'r garol eto i'w chlywed
  Yn Offeren Sïon lân;
Tra bo'i phlant yn isel erfyn,
Mae ei Haberth fry yn esgyn
  Yn sain bêr yn Angel-gân;
Gwêl y llewyrch eto'n twynnu
  Ar lân Allor Eglwys Grist,
Yno, yn ei rym a'i fawredd,
Yn pelydru ei drugaredd
  Ar eneidiau euog trist.

Ar ôl cyffes a gollyngdod
  Mynd i wyddfod Iesu wnawn,
Cyffwrdd cwr ei wisg sancteiddlawn,
A thrwy rin
    ei Aberth cyfiawn
  Nerth ac iechyd yno gawn;
Yno gydag Archangylion,
  Engyl a holl Seintiau'r nef,
Y moliannwn a chlodforwn,
Y mawrygwn ac addolwn
  Byth ei Enw sanctaidd ef.
T Prichard (Amlwch) 1847-1926

Tonau [87.887.D]:
  Angel-Gân (Leslie D Paul 1903- )
  Môn (David Evans 1874-1948)

What is the sweet carol to be heard
  As the mellifluous sound
      of the Angel-song,
After others had long retired
While shepherds were watching
  In the field their small sheep?
The stars of the morning re-chorusing,
  The sons of God re-rejoicing,
A new creation's beginning,
A work beginning which will be in eternity -
  The birth of human-kind's Saviour.

The great glory of God shone,
  While sparkling like the dew;
God in man has taken on flesh,
The Brightness has returned
  To tabernacle in our midst;
Terror flooded the shepherds
  In the worthy Presence,
Until the holy Angels declared
The full meaning of the Divine purpose -
  The Saviour of human-kind was born.

The carol is still heard
  In the divine Office of holy Zion;
While ever her children lowly supplicate,
His Sacrifice is ascending above
  As a mellifluous sound in Angel-song;
See the radiance still shining
  On the holy Altar of the Church of Christ,
There, in its force and its greatness,
Gleaming his mercy
  On sad, guilty souls.

After confession and absolution
  Go to the presence of Jesus let us do,
Touch the corner of his fully-holy garment,
And through the merit
    of his righteous Sacrifice
  Strength and health there let us get;
There with Archangels,
  Angels and all the saints of heaven,
We shall praise and acclaim,
We shall magnify and adore
  Forever his holy Name.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~