Beth yw'r newydd? Beth yw'r canu? Gan angelion heddyw sy' Pa'm y deuant tua Beth'lem? 'N awr yn lluoedd oddi fry; Genedigaeth Ceidwad dynion, Yw eu newydd hwy a'u cān, Unwn ninau gyda'r engyl, I'w foliannu, fawr a mān. Dyma'r newydd goreu swniodd, Yn ein clustiau īs y rhod; Fod un eto at ein cadw, 'N Geidwad ini wedi d'od; 'Roedd yn cael ei wir addoli, Gan holl luoedd nef yn un, Er mor wael yr olwg arno, Pan yn gwisgo natur dyn. Dyn a'r Duwdod ynddo'n trigo, Oedd y man isela' bu; Dyn a'r Duwdod ynddo'n trigo, Pan yn marw ar Galfari; Dyn a'r Duwdod ynddo'n trigo Ydyw eto yn y nef; Dyn a'r Duwdod ynddo'n trigo, Yn oes oesoedd molir ef. O rhyfeddwn rym ei gariad, 'N d'od i lawr o'r nefoedd fry, Ac yn marw dros bechadur, Haeddodd fod yn uffern ddu: Bydd telynau'n canu iddo, Gan fyrddiynau heb ddim rhi', Rh'odd ei hun yn aberth drostynt, Un prydnawn ar Galfari. Pwy a ŵyr na welir finau, Byth yn mhlith y dyrfa hardd, Yn clodfori byth heb dewi, 'R hwn fu'n chwysu yn yr ardd; Byw yn wastad yn ei heddwch, Edrych yn ei wyneb llon, A theyrnasu yn oes oesoedd Mewn gogoniant ger ei fron.Joseph E Davies 1812-81 [Mesur: 8787D] |
What is the news? What is the song Sung by angels today? Why do they come towards Bethlehem, Now in throngs from above? The birth of the Saviour of men, Is their news and their song, Let us too unite with the angels, To praise him, great and small. Here is the best news sounded, In our ears below the sky; That one still to save us, As a Saviour has come for us today; He was getting truly worshipped, By the whole hosts of heaven as one, Although so poor the look upon him, When wearing the nature of man. Man and Godhead in him dwelling, Was the lowest place he was; Man and Godhead in him dwelling, When dying on Calvary; Man and Godhead in him dwelling Are still in heaven; Man and Godhead in him dwelling, Forever and ever he is to be praised. O let us wonder at the power of his love, Coming down from heaven above, And dying for a sinner, Who deserved to be in black hell: Harps shall be playing to him, By myriads without any number, He gave himself as a sacrifice for them, One afternoon on Calvary. Who knows whether I shall be seen, Ever amongst the beautiful throng, Extolling forever without falling silent, Him who was sweating in the garden; Living forever in his peace, Looking on his cheerful face, And reigning forever and ever In glory before him.tr. 2019 Richard B Gillion |
|