Bod hollalluog ydyw Duw, Efe all ladd neu gadw'n fyw; Fe welir ei fawr allu Ef, Yn amlwg yn y ddae'r a'r nef. Trwy'i allu mawr fe ddwg ei saint, O bob caethidwed poen a haint; Fe'u cynnal â'i alluog ras, Fe gongcra'u holl elynion cas. Fe bâr yr haulwen fawr a'r lloer, Y sêr, y tân, y gwynt, a'r môr; I ymladd o blaid Sïon wan, Nes d'od o'r anial fyd i'r làn. Un hollalluog ydyw Duw, Ceiff pawb o'i blant eu cadw'n fyw; A'u cyrph ddaw'n llwyr i'r làn o'r bedd, I fyw yn dawel yn ei hedd.Caniadau Bethel (Casgliad Evan Edwards) 1840 [Mesur: MH 8888] |
An omnipotent being is God, He can kill or keep alive; His great power is to be seen, Evident in the earth and heaven. Through his great power he will lead his saints, From every captivity of pain and disease; He will support them with his powerful grace, He will conquer all their detestable enemies. Endure shall the the great sun and the moon, The stars, the fire, the wind and the sea; To fight on the side of weak Zion, Until coming up from the desert world. One omnipotent is God, All of his children will get kept alive; And their bodies will come whole up from the grave, To live quietly in his peace.tr. 2015 Richard B Gillion |
|