Boed clod i'n Prynwr rhad, Ein Ceidwas cu; Fe dorrodd rym yr hen Iorddonen ddu: Gorchfygodd angau cryf, Er awch ei gleddyf glas, A drylliodd rwymau'r bedd, O! ryfedd ras! Crist yw ein cadarn dwr Gwaredwr yw; Dan gysgod tawel hwn Y byddwn byw: Fe arwain ei holl saint, Er cymaint llid eu cas, I mewn i'r nefol wledd, O! ryfedd ras! Wrth orffwys ar yr Iawn, Ni gawn i gyd Felysion ffrwythau'r groes Drwy'n hoes o hyd: Mae yma hyfryd win I flin, o beraidd flas, Maddeuant pur a hedd, O! ryfedd ras! Yn rawnwin ar y groes Fe droes y drain, Caed balm o archoll ddofn Y bicell fain: Dechreuwn fawl cyn hir Na flinir ar ei flas Am Iesu'r aberth hedd: O ryfedd ras!Peter Jones (Pedr Fardd) 1775-1845
Tonau [6464.6664]: gwelir: Rhan I - Daeth ffrydiau melys iawn Fe gymerth Iesu blaid |
Let there be esteem to our gracious Redeemer, Our dear Saviour; He broke the force of the old Black Jordan: He overcame strong death, Despite the edge of its sharp sword, And smashed the bonds of the grave, O wonderful grace! Christ is our firm tower A Deliverer he is; Under this quiet shadow We shall live: He will lead all his saints, Despite how great their enemies' wrath, Into to heavenly feast, O wonderful grace! While resting on the Atonement, We may all get The sweet fruits of the cross All through our life: There is here delightful wine To a weary one, of sweet taste, Pure forgiveness and peace, O wonderful grace! Into grapes on the cross He turned the thorns, Balm was got from the deep wound Of the sharp spear: We will begin praise before long Its zest not to be tired of About Jesus the sacrifice of peace: O wonderful grace!tr. 2009,19 Richard B Gillion |
Sweet streams of pleasantnesstr. Howell Elvet Lewis(Elfed) 1860-1953
|