Boed fy nghalon iti'n dem(e)l

1,2,(3,(4)).
(Hiraeth am Gymdeithas gyson Christ)
Boed fy nghalon iti'n demel,
   Boed fy ysbryd iti'n nyth,
Ac o fewn y drigfan yma
   Aros, Iesu, aros byth:
      Gwledd wastadol
   Fydd dy bresenoldeb im.

Awr o'th bur gymdeithas felys,
   Awr o weld dy wyneb-pryd
Sy'n rhagori fil o weithiau
  Ar bleserau gwag y byd:
      Mi ro'r cwbwl
   Am gwmpeini pur fy Nuw.

Datrys, datrys fy nghadwynau,
   Gad i'm hysbryd fynd yn rhydd;
'Rwyf yn blino ar y t'wyllwch,
   Deued, deued golau'r dydd:
      Yn y golau
   Mae fy enaid wrth ei fodd.

Gwawrddydd, gwawrddydd yw fy mywyd,
   Gweld y wawrddydd, 'rwyf yn iach:
Mi arhosaf hyd pan ddelo -
   Daw, hi ddaw 'mhen gronyn bach:
      Tyred, tyred,
   Im gael gweld fy ngwlad fy hun.
demel :: deml
Awr o'th bur :: Awr o dy
Mi ro'r cwbwl :: Rhoddaf bopeth
gwmpeini pur :: gymdeithas bur
Datrys, datrys :: Dadrys, dadrys

William Williams 1717-91

Tonau:
Agathe (Carl M von Weber 1786-1826)
Bonn (<1875)
Bridport (J A Lloyd 1815-84)
Bryn Calfaria (William Owen 1814-93)
Hyder (Richard Ellis 1775-1855)
Llanilar (alaw Gymreig)
Price (Daniel Protheroe 1866-1934)
St Peter (alaw eglwysig)
Siloa (alaw Almaenaid)

gwelir:
  Arglwydd grasol dyro gymhorth
  Dechrau canu dechrau canmol
  Duw teyrnasa ar y daear
  Mae gelynion i mi'n chwerw
  O gwasgerwch dew gymylau
  O na ba'wn yn gwel'd y boreu
  'Rwi'n dy garu er nas gwelais
  Y mae gwedd dy wyneb grasol

(Longing for constant communion with Christ)
May my heart be a temple to thee,
  May my spirit be a nest to thee,
And within this dwelling-place
  Stay, Jesus, stay forever:
    A perpetual feast
Thy presence will be to me.

An hour of thy pure, sweet company,
  An hour of seeing thy countenance
Is a thousand times better
  Than the empty pleasures of the world:
    I will give the whole lot
For the pure company of my God.

Difficult, difficult my chains,
  Let my spirit go free;
I am ailing because of the darkness,
  May it come, may the light of day come:
    In the light
My soul is be content.

Daybreak, daybreak is my life,
  To see the daybreak, I am well:
I will stay as long as I will -
  Yes, it is coming in a little while:
    Come, come,
That I may see my land for myself.
::
An hour of thy pure :: An hour of thy
I will give the whole lot :: I will give everything
pure company :: pure fellowship
::

tr. 2008 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~