Boed i ni â'n gwefusau, A'n bywyd draethu i'r byd, Efengyl santaidd Iesu, Y'm ni'n broffesu o hyd; Dysgleiried ein gweithredoedd A'n rhinwedd o bob rhyw, I brofi yr athrawiaeth, Ei bod hi oll o Dduw. Fel hyn y gallwn oreu Gyhoeddi maes ar led, Anrhydedd ein Iachawdwr, Gerbron y rhai digred; Pan fyddo'r iechydwriaeth O'n mewn, a rhinwedd gras Yn maeddu a darostwng Holl rym ein pechod cas. Mae'n rhaid i ni ymwadu A chnawd a rheswm dall, Cynfigen, gwŷn a thrachwant, A balchder yn ddiball; Fel y b'o gwir a chariad, Uniondeb, sobrwydd llawn, Yn profi ein duwioldeb, A'n purdeb oddi fewn. Gwir grefydd ddeil i fynu Ein hyspryd, tra b'om ni Yn disgwyl am y gobaith Tra gwynfydedig fry; Sef, disglair ymddangosiad Ein Harglwydd mawr o'r nef, A ffydd a saif, gan bwyso Ar ei addewid ef. [Mesur: 7676D] |
Let us with our lips, And our life expound to the world, The holy gospel of Jesus, We are always professing; May our actions shine And our virtue of every kind, To prove the teaching, That it is all from God. Thus may we best Publish abroad, The honour of our Saviour, Before the unbelieving ones; When the salvation is Within us, and the virtue of grace Beating and subduing All the force of our hated sin. It is necessary for us to deny Flesh and blind reason, Envy, passion and lust, And pride unfailingly; Thus shall truth and love, Uprightness, full sobriety, Prove our godliness, And our purity from within. True belief shall keep up Our spirit, while ever we are Waiting for the hope So blessed above; That is, the radiant appearance Of our great Lord from heaven, And faith shall stand, while leaning On his promise. tr. 2017 Richard B Gillion |
|