Bychain blant bu'r Arglwydd Iesu I'w lân freichiau yn gwahôdd, Ac i'r anwyl rai'n cyfrannu Bendith Nef yn felus rodd; E geryddai'n llym y rhei'ny A fynnasai'u cadw'n ol, - Eu gwiriondeb gan orhoffi, E'u derbyniai yn ei go'l. Pan bo angau yn cymmeryd Plant i ffwrdd o dir y byw, Wylo heilltion ddagrau tristyd Ar eu hol anghymmwys yw: O dywyllwch dyffryn galar Aethant adre' atto Ef A ddywedodd ar y ddaear Mai eu rhan yw teyrnas nef. Plant oedd anwyl gan yr Iesu Tra bu'n rhodio'r ddaear hon, - Yn y nefoedd cant ei garu, Ar ei wyneb wenu'n llon: Mantell glyd ei gariad mwynaidd Sy'n eu hamgylchynu 'nawr, Nid oes arnynt hiraeth oeraidd Am wageddau daear lawr. Ni fu enllib ar eu genau, Ni fu dichell yn eu bron, Ni rodiasant geimion lwybrau Twyll a brad y fuchedd hon; Addas ynt i gymdeithasu A thrigolion pur y wlad Lle mae heddwch yn teyrnasu Yn ddiddiwedd ei barhad.Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846 Gwinllan y Bardd 1831 [Mesur: 8787D] |
Little children was the Lord Jesus Into his holy arms welcoming, And to the beloved ones sharing The blessing of Heaven as a sweet gift; He would rebuke sharply those Who insisted on keeping them back, - Being over-fond of their truth, He would receive them in his bosom. When death be taking Children away from the land of the living, Weeping salty tears of sadness After them incomparably he is: From the darkness of the vale of mourning They go home to Him Who said on the earth That their portion is the kingdom of heaven. Children were beloved of Jesus While he was walking this earth, - In heaven the may sing, On his face smiling cheerfully: The cosy cloak of his gentle love Is surrounding them now, They have no chilly longing For the emptinesses of earth below. There was no slander on their mouths, There was no deception in their breast, They did not walk the false paths Of deceit and treachery of this lifestyle; Worthy they are to fellowship With the pure inhabitants of the land Where peace is reigning Endlessly to endure.tr. 2016 Richard B Gillion |
|