Bydd gweld gogoniant Iesu, A chofio'r mannau bu, Yn ennyn cân newydd Trwy'r holl nefolaidd lu; Ei weld, a chofio Bethlem, A'i eni yno'n dlawd - Rhyfeddod nef y nefoedd Fydd gweled Duw mewn cnawd. Ei weld, a chofio'r cwpan Yn Gethsemane ardd; Ei gofio'n dod o Edom Oll yn ei wisg yn hardd; Ei weld, a'i holl elynion Yn droedfainc dan ei draed; Ei weld, a chofio'n golchi O'n beiau yn ei waed. Ei weld, a chofio'r gofyn Yn y fechnïaeth fawr, Wrth fynd i'r ddeddf yn ddiwedd, Rho'i fywyd glân i lawr; Pa fodd na bydd yr olwg Ar Brynwr euog ddyn Yn ennyn cân a syndod Trwy'r nefoedd fawr ei hun?Robert Owen (Eryron Gwyllt Walia) 1803-1870
Tonau [7676D]: |
Seeing the glory of Jesus, And remembering the places he was, Will be kindling a new song Throughout all the heavenly host; Seeing him, and remembering Bethlehem, And his birth there as poor - The wonder of the heaven of heavens Will be to see God in flesh. Seeing him, and remembering the cup In Gethsemane garden; Remembering his coming from Edom All in his beautiful clothing; Seeing him, and all his enemies A footstool under his feet; Seeing him, and remembering our washing From our faults in his blood. Seeing him, and remembering the demand In the great surety, Going to the law in the end, Laying down his holy life; How can the look upon The Redeemer of guilty man not Kindle a song and surprise Through great heaven itself?tr. 2016 Richard B Gillion |
|