Byth boed maddeuant rhad, A gaed trwy waed yr Oen, Yn destun moliant ymhob man Ynghanol byd o boen. Bydd canu pêr am hyn Yn Salem cyn bo hir, Pan una lluoedd nef a llawr I seinio'r anthem bur. Yr anthem faith ei hyd, Fo i gyd am Galfari, A'r Iachawdwriaeth fawr ei dawn, Ddaeth un prynhawn i mi.William Williams 1717-91
Tonau [MB 6686]: gwelir: Ar grasdir crindir cras Mi gana' am waed yr Oen O gwrando weddi'r tlawd 'Rwy'n gorwedd dan fy mhwn Yr iachawdwriaeth rad |
Forever let free forgiveness, Got through the blood of the Lamb, Be the theme of praise everywhere Amidst a world of pain. There will be sweet singing about this In Salem before long, When the hosts of heaven and earth unite To sound the pure anthem. The anthem of great extent, Be all about Calvary, And the Salvation of great power, Which came one afternoon to me.tr. 2011 Richard B Gillion |
|