Caed modd i faddeu beiau/pechod

1,2,(3b);  1,3a.
(Clwyfau Iesu)
Caed modd i faddeu beiau,
  A lle i guddio pen,
Yn nghlwyfau dyfnion Iesu
  Fu'n gwaedu ar y pren;
Anfeidrol oedd ei gariad,
  Annhraethol oedd ei gur,
Wrth farw dros bechadur
  Pan dan yr hoelion dur.

Daeth i mi iechydwriaeth
  Drwy rinwedd
      gwaed ei groes,
Caed i mi bob cyfiawnder
  Er mwyn ei farwol loes;
Y gyfraith lān droseddwyd
  A ga'dd anrhydedd llawn:
Cyfiawnder a foddlonwyd
  Yn ei anfeidrol Iawn.

Un waith am byth oedd ddigon
  I wisgo'r goron ddrain;
Un waith am byth oedd ddigon
  I ddiodde'r bicell fain;
Un aberth mawr yn sylwedd
  Yr holl gysgodau i gyd;
Un Iesu croeshoeliedig
  Yn Feddyg
      drwy'r holl fyd.

[Un waith am byth oedd ddigon
   I wisgo'r goron ddrain;
 Un waith am byth oedd ddigon
   I ddiodde'r bicell fain;
 Un aberth mawr gwirfoddol
   Dawelodd ddwyfol lid;
 Un Iesu croeshoeliedig
   Sy'n Feddyg i'r holl fyd.]
beiau :: pechod
Pan dan :: O dan
i mi :: ini
iechydwriaeth :: iachawdwriaeth
anrhydedd :: foddlonrwydd
a foddlonwyd :: ogoneddwyd

1-2 Mary Owen 1796-1875
3: Anadnabyddus

Tonau [7676D]:
Abertawe/Heidelberg (Sallwyr Marot)
Caerllyngoed (Stephen Llwyd 1794-1854)
Kilmorey (J A Lloyd 1840-1914)
Meirionydd (alaw Gymreig)

gwelir: Un waith am byth oedd ddigon

(The Wounds of Jesus)
A means to forgive faults is had,
  And a place to hide a head,
In the deep wounds of Jesus
  Who was bleeding on the tree;
Immeasurable was his love,
  Inexpressible was his beating,
While dying for a sinner
  When under the steel nails.

Salvation came to me
  Through the virtue
      of the blood of his cross,
Every righteousness is got for me
  For the sake of his mortal anguish;
The holy law which was transgressed
  Has got full honour:
Righteousness was satisfied
  In his immeasurable Atonement.

Once forever was enough
  To wear the crown of thorns;
Once forever was enough
  To suffer the sharp spear;
One great sacrifice as the substance
  Of all the foreshadowings altogether;
One Jesus crucified
  As a Physician
      throughout the whole world.

[Once forever was enough
   To wear the crown of thorns;
 Once forever was enough
   To suffer the sharp spear;
 One great voluntary sacrifice
   That silenced divine wrath;
 One Jesus crucified
   Who is a Physician for the whole world.]
faults :: sin
When under :: Under
for me :: for us
::
honour :: satisfaction
was satisfied :: was glorified

tr. 2014,16 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~