Calfaria gaiff ei gofio Pan losgo'r ddaear lawr, A'r Iawn a roes yr Iesu Gaiff ei ryfeddu yn fawr: Rhyw dyrfa lân ddiflino A seiniant "Iddo Ef," Calfaria fydd y testyn Ar delyn aur y nef. Calfaria gaiff ei gofio Pan d'wyllo haul y nen, A threulio maith flynyddau Y byd a'i oesau i ben; Rhyw lawen Haleliwia Am ben Calfaria fydd, Pryd hyn bydd plant y tonau Dros byth o'u rhwymau'n rhydd. Calfaria ni annghofir Tra gwelir ol y gwaed Yn clirio'r holl gysgodau, Trwy'r gwyrthiau mawr a gaed: Calfaria ydyw'r anthem Gan luoedd Salem lân, A phoenau'r gwaith gorphenol Fydd eu tragwyddol gân. Ar fryn yng ngwlad Iwdea, Iehofa mawr ei hun A safodd dros bechadur - Oen Duw yn natur dyn! Pan rifwyd ar y Meichiau Ein holl gamweddau ni Archollwyd dan yr hoelion Ei fron ar Galfari.Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-1850
Tonau [7676D]: |
Calvary will be remembered When the earth below burns, And the Recompense that Jesus gave Will be wondered at greatly: Some holy grief-free throng Shall sound "Unto Him," Calvary will be the theme On the golden harp of heaven. Calvary will be remembered When the sun of the sky darkens, And the vast years of the world And its ages are all spent; Some joyful Hallelujah Shall be on the summit of Calvary, That time when the children of the waves are Forever free from their bonds. Calvary is not to be forgotten While the traces of the blood are to be seen Clearing all the shadows, Through the great miracles to be had: Calvary is the anthem By a host of holy Salem, And the pains of the past work Will be their eternal song. On a hill in the land of Judea, Great Jehovah himself Placed for a sinner - The Lamb of God in man's nature! When counted on the Surety were All our transgressions Split under the nails was His breast on Calvary.tr. 2015 Richard B Gillion |
|