Canaf i'm Prynwr, Brenin nef, Gorchfygodd ar y llawr; A'i farwol lef, gwnaeth nerthol wyrth, Ysgydwodd uffern fawr. "Gorphenwyd!" medd yr Iesu gwiw; Fe gaed y goncwest fawr; Ac eistedd ar ei orsedd wna, Yn Llywydd nef a llawr. Esgyn a wnaeth i entrych nef I eiriol dros y gwan; Fe'n dwg trwy'r tònau mawrion, maith, I'w fynwes yn y man. Ei groes osododd sylfaen gref Am deyrnas nef i ni; Cydseiniwn ninau anthem bêr Byth, byth, am Galfari.John R Jones 1765-1822 Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844 Tôn [MC 8686]: St Magnus (Jeremiah Clarke c.1673-1707) gwelir: Canaf i'm Prynwr Brenin nef [MS] |
I will sing to my Redeemer, the King of heaven, Who overcame on earth; With his dying cry, he did a powerful miracle, He shook great hell. "It is finished!" said the worthy Jesus; He gained the great victory; And sit on his throne he shall, As Governor of heaven and earth. Ascend he did to the vault of heaven To intercede for the weak; He will bring us through the great, vast waves, To his bosom soon. His cross set a strong foundation For the kingdom of heaven in us; Let us too sound together a sweet anthem Forever and ever, about Calvary.tr. 2019 Richard B Gillion |
|