Canaf yn y bore Am dy ofal cu; Drwy yr hirnos dywyll Gwyliaist drosof fi. Diolch iti, Arglwydd, Nid ateliaist ddim; Cysgod, bwyd a dillad, Ti a'u rhoddaist im. Cadw fi'n ddiogel Beunydd ar fy nhaith; Arwain fi mewn chwarae, Arwain fi mewn gwaith. Boed fy ngwaith yn onest, Rho im galon bur; Nertha fi i ddewis Rhwng y gau a'r gwir. "Diolch iti, Arglwydd," Yw fy llawen gān; Canaf nes im gyrraedd Broydd Gwynfa lān. William Bryn Davies 1865-1921
Tonau [6565]: |
I will sing in the morning Of thy dear care; Through the long, dark night Thou didst watch over me. Thanks to thee, Lord, Who didst not cease; Shelter, food and clothing, Thou gavest them to me. Keep me safe Daily on my journey; Lead me in play, Lead me in work. May my work be honest, Give me a pure heart; Strengthen me to choose Between the wrong and the right. "Thanks to thee, Lord," Is my joyful song; I will sing until I reach The regions of holy Blessedness. tr. 2008 Richard B Gillion |
|