Caned a welodd wawr, Yn codi o'r t'w'llwch du; Caned a brofodd flas Grawn-sypiau'r Ganaan fry: Ni ddown, ni ddown i Sion fryn, Er maint yr holl anialwch hyn. Mae'r faner fawr y'mlaen, 'R efengyl wen o hyd; Mae uffern lawn o dān, Yn crynu'n awr ynghyd; Hi gwymp, hi gwymp, er maint ei grym, O flaen yr Iesu 'dyw hi ddim. Wel, bellach tyr'd y'mlaen, Nac ofna f'enaid mwy, Llai grym sy'n uffern dān, Na dwyfol farwol glwy': Telynau aur sy'n canu'n un, Effeithiol goncwest Mab y Dyn. A thyma'r bore ddydd, Cāf finnau seinio cān, 'Nol fy nghaethiwed maith, Am waredigaeth lān: O hyfryd ddydd, pa bryd y daw? 'Rwy'n ammeu fod y wawr gerllaw. - - - - - Caned a welodd wawr Yn codi o'r twllwch du; Caned a brofodd flas Grawnsypiau'r Ganaan fry; Ni ddown, ni ddown, i Seion fryn, Er maint yr holl anialwch hyn. Na lwfwrhaed ein ffydd; Mae'n ffydd fel colofn dān A blannodd Brenin nef I'n harwain yn y blaen; Mi wela'r wlad, mi ga'i mwynhau, Lle bydd fy hedd heb dranc na thrai.William Williams 1717-91
Tonau [666688]: gwelir: Dysgleiria foreu wawr Mae'r faner fawr ym mlaen Wel bellach tyr'd yn mlaen |
Let him sing, who saw the dawn Rising from the black darkness; Let him sing, who experienced a taste Of the grape-clusters of the Canaan above; We shall come, we shall come to Zion hill, Despite the extent of all this desert. Ahead is the great flag, Of the bright gospel always; Hell is full of fire, Trembling now altogether; It falls, it falls, despite its power, Before Jesus it is nothing. Now, henceforth come on, Nor fear, my soul, any more, Less the power that is in hell fire, Than a divine mortal wound: Golden harps are singing as one, The effectual conquest of the Son of Man. And here is the morn of day, When I too shall get to sound a song, After my long captivity, About holy deliverance: O lovely day, when shall it come? I am doubting that the dawn is at hand. - - - - - Let him sing, who saw the dawn Rising from the black darkness; Let him sing, who experienced a taste Of the grape-clusters of the Canaan above; We shall come, we shall come to Zion hill, Despite the extent of all this desert. Let not our faith lose heart; Our faith is like a pillar of fire The King of heaven planted To lead us onwards; I see the land, I shall get to enjoy it, Where my peace shall be without dying or ebbing.tr. 2018 Richard B Gillion |
|