Canu'n bêr wna'r adar mân Ar ganghennau'r coed, Llenwi'r greadigaeth lân Wnant â chân erioed. Rhoddwn ninnau, gyda'r peraidd gôr, O'n calonnau fawl i'r Arglwydd Iôr. Canu wnant mewn perth a llwyn, Heb nac ofn na braw, Canu yn yr heulwen fwyn, Canu wedi'r glaw. Cân y fronfraith ar y pren Sydd ym mharc y dref, Yntau hedydd yn y nen Gân wrth ddrws y nef. Duw a'u gwylia hwynt i gyd, Portha hwy â'i law; Hwythau ymhob gwlad drwy'r byd Ganant yn ddi-daw.W T Llynfi Davies 1876-1937 Caniedydd Newydd yr Ysgol Sul 1930
Tôn [7575+99]: Y Peraidd Gôr |
Sing sweetly do the small birds On the branches of the trees, Filling the holy creation They ever do with a song. Let us too render, with the sweet choir, From our hearts to the Sovereign Lord. Sing they do in shrub and grove, With neither fear nor terror, Singing in the gentle sunshine, Singing after the rain. The song of the thrush on the tree That is in the park of the town, Or the lark in the sky A song at the door of heaven. 'Tis God who watches them all, He feeds them with his hand; They in every land throughout the world Sing unceasingly.tr. 2023 Richard B Gillion |
|