Cadben mawr ein hiachawdwriaeth
Capten mawr ein hiachawdwriaeth
Capten mawr ein hiechydwriaeth

Capten mawr ein hiechydwriaeth,
  Welaf yn y frwydr hon;
Holl elynion ei ddyweddi,
  Yn gorfod plygu ger ei fron:
Plant afradlon sy'n dod adref,
  Rhai fu mhell o dir eu gwlad,
Rhai fu'n fudion sy'n clodfori
  Duw am iechydwriaeth rad.            [MR]

Marchog Iesu yn llwyddiannus,
  Gwisg dy gleddyf ar dy glun,
Nid all daear dy wrthsefyll,
  Chwaith nac uffern fawr ei hun;
Mae dy enw mor ardderchog,
  Pob rhyw elyn gilia draw,
Mae rhyw arswyd
    drwy'r greadigaeth
  Pan y byddost ti gerllaw.            [WW]

- - - - - 1,(2,(3,4));  1,2,5,6,7,8;  1,2,(5),7.
Capten mawr ein hiechydwriaeth, Welaf yn y frwydr hon: Holl elynion ei ddiweddi, Yn gorfod plygu ger ei fron; Plant afradlon sy'n dod adre', A fu 'mhell o dir eu gwlad; Y rhai fu'n fudion sy'n clodfori Duw am iechydwriaeth rad. [MR] Wele'r Iesu pen rhyfelwr, Yn dod i'r lann o Edom wlad; Ei wisg yn goch, ei fraich yn rymmus, A'r ddraig yn glwyfus dan ei draed; Am yr hyfryd fuddugoliaeth, Mi gana'm telyn fach yn awn, Hyd oes delo yr hyrtyd fore, 'Y cāf fi ganu'r delyn fawr. [MR neu DW] Draw ar gopa bryn Golgotha, Bu'r ymladdfa fwya 'rioed; 'R'Oen heb gleddau na grym arfau, 'N sathru'r dreigiau tąn ei droed: Ef mewn lludded mawr a syched, Yn gorchfygu uffern lu; Etto ffynnon yn ei galon, I olchi'n wyn yr Ethiop du. [DD] Pan bo Sinai i gyd yn mygu, A sain yr udcorn uchaf radd; Cāf fyn'd i wledda dros y terfyn, Y'ngrym yr aberth heb fy lladd; Mae ynddo yn trigo bob cyflawnder, Llon'd gwagle colledigaeth dyn: Yn yr adwy rhwng y ddwy blaid, Gwnaeth gymmod trwy offrymu ei hun. [AG] Pa pryd cāf wel'd y tir dymunol, Hyfryd baradwysaidd wlad, Lle mae brodyr i mi filiwn, Lle mae fy Mhriod a fy Nad; Lle cai orphwys o fy llafur, A gwellhau fy nghlwyfau'n rad, A chael gwledd drag'wyddol berffaith, Ar ben fy nhaith yn nhy fy Nhad. [WW] Manna nefol sy arnaf eisiau, Dwfr rhedegog, gloyw, byw, Sydd yn tarddu o dan riniog Temel sanctaidd, bur fy Nuw; Ond i'm henaid deimol ei rinwedd, Yn gwneud yr euog brwnt yn lān; Ti gei'r clod ryw fyrdd o oesoedd 'Nol i'r ddaear fynd yn dān. [WW] Yno y llenwir fy nymuniad, Er ei faint ac er ei gri, Fy holl wagter wneir i fynu, O gyflawnder UN yn DRI, Mi gaf yfed o ffynnonau, Pleser ag sy'n dwfrhau, A datguddiad pur o fywyd, Annherfynol i barhau. [WW] Y mae meddwl am dy haeddiant, Cofio am dy gariad gwir, Fel rhyw ffynnon o lawenydd, Lawn o ddyfroedd gloyw clir; Efe yw'm iachawdwriaeth werthfawr, Fy amddiffynfa a fy NUW, Efe a'i rās gaiff fod yn sylwedd, Fy nghaniadau tra f'wyf byw. [WW]
- - - - -
Capten mawr ein hiachawdwriaeth Welaf yn y frwydyr hon; Holl elynion ei ddyweddi'n Gorfod plygu ger ei fron; Plant afradlon sy'n dod adref, A fu 'mhell o dir eu gwlad, Rhai fu'n fydion sy'n clodfori Duw am iachawdwriaeth rad. [MR] Galw eto, yn dy gariad, Luoedd, o'r tywyllwch mawr: 'Rwyt yn gyfaill cywir, ffyddlon I drueiniaid gwael y llawr: Gwell ym mhob rhyw gyfyngderau Na gwrthrychau gorau'r byd: Nef wrth fyw, a nef wrth farw, Nefoedd wyt i bara o hyd. [MR]
Wele'r Iesu pen rhyfelwr :: Wele Iesu'r Penrhyfelwr

[AG] = Ann Griffiths 1776-1805
[An] = Anhysbys
[DD] = David Davies 1763-1816
[DW] = "Mr David Williams 1712-94, Llandilo Fach"
  (priodolwyd gan Llyfr Hymnau y M.C. 1869, 1876 a 1897)
[MR] = Morgan Rhys 1716-1779
[WW] = William Williams 1717-91

Tonau [8787D]:
Argoed (J Richards [Isalaw] 1843-1901)
Bethany (Henry Smart 1813-79)
Edinburgh (alaw Gymreig)
Hamburgh (J Schop / F Filitz)
Hyfrydol (R H Pritchard 1811-87)
Mendelssohn (F Mendelssohn 1809-47)
Moriah (alaw Gymreig)
Sanctus (J Richards [Isalaw] 1843-1901)
Vienna (F J Haydn 1732-1809)

gwelir:
  Bryd ca'i wel'd y tir dymunol?
  Clywch yr udgorn fel mae'n seinio
  Deuwch etifeddion sylwedd
  Draw ar gopa bryn Golgotha
  Iesu llawnder mawr y nefoedd
  Llawen ydwyf fod dy hanfod
  Marchog Iesu yn llwyddiannus
  Minau bryfyn gwael o'r ddaear
  Nid eill moroedd mawrion llydain
  Nid oes derfyn/terfyn ar flynyddau
  O llefara addfwyn Iesu
  O mor hyfryd yw'r meddyliau
  O Pa bryd cāf wel'd dy wyneb?
  Ofer i mi wel'd y ddaear
  Pa gyfnewidiadau bynag
  Tyred Arglwydd tyr'd yn fuan (Dyro'n helaeth ...)
  Tyred Iesu i'r anialwch
  Wele Iesu'r Pen rhyfelwr

The great Captain of our salvation,
  I see in this battle;
All the enemies of his betrothed,
  Must bow before him:
Prodigal children are coming home,
  Some from far from their land
Some who were mute are praising
  God for free salvation.

Ride, Jesus, prosperously,
  Wear thy sword on thy thigh,
Earth cannot withstand thee,
  Neither can great hell itself;
Thy name is so excellent,
  Every kind of enemy retreats away,
There is some terror
    throughout the creation
  Whenever thou art at hand.

- - - - -  
The great Captain of our salvation, I see in this battle; All the enemies of his betrothed, Must bow before him: Prodigal children are coming home, Who were far from their land Some who were mute are praising God for free salvation. See Jesus the chief warrior, Coming up from the land of Edom; His clothing red, his arms strong, And the dragon wounded under his feet; About the delightful victory I shall play my little harp now, Until the delightful morning comes, When I shall get to play the great harp. Over on the summit of the hill of Golgotha, Was the greatest ever battle; The Lamb without sword or force of arms, Trampling the dragons under his foot: He in great exhaustion and thirst, Overcoming a hellish host; Still a fountain in his heart, To wash white the black Ethiopian. When there is all Sinai is smoking, And the sound of the trumpet of highest degree; I shall get to go to feast across the border, In the force of the sacrifice without getting killed; In him dwells every fullness, The capacity of the emptiness of the fall of man: In the gap between the two parties, He made reconciliation through offering himself. When shall I get to see the desired land, The delightful paradisiacal country, Where are a million of my brothers, Where are my Spouse and my Father; Where I may get rest from my labour, And my wounds freely healed, And have an eternal, perfect feast, At my journey's end in my Father's house. Heaven manna is what I need, Running, clear, living water, Which springs from under the threshold Of the pure, holy temple of my God; But for my soul to feel his virtue, Making the filthy, guilty one clean; Thou shalt get the praise of some myriad of ages After the earth goes on fire. There shall be fulfilled my desire, Despite its vastness and despite its cry, All my emptiness is to be made up From the the fullness of ONE in THREE, I shall get to drink from the fountains, Pleasure which is as waters, And a pure revelation of life, Everlasting to continue. My thought is about thy merit, Remembering thy true love, Like some fountain of joy, Full of clear, shining waters; He is my valuable salvation, My defence and my GOD, He and his grace shall be the substance Of my songs as long as I live.
- - - - -
The great Captain of our salvation, I see in this battle; All the enemies of his betrothed, Must bow before him: Prodigal children are coming home, Who were far from their land Some who were mute are praising God for free salvation. Call again, in thy love, Hosts, from the great darkness: Thou art a true, faithful friend To base wretches of the earth: Better in all kinds of straits That the best objects of the world: Heaven while living, and heaven while dying, Heavens thou art to continue always.
::

tr. 2014 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~