gorweddodd yr Arglwydd. Math. xxvii. 6.) Chwi rhai gwan sy' tan alaru, Yn ofidus dreulio'ch oes, Nac ofnwch chwi sy'n ceisio'r Iesu 'R hwn fu farw ar y groes: Weiniaid de'wch, Ymgryfhewch, Gwledda ar ei gariad cewch. De'wch a gwelwch lle gorweddodd Crist yr Arglwydd Brenhin hedd; Talodd ef yn llwyr eich dyled Cyn ei roi mewn newydd fedd; Israel Duw, mae e'n fyw, 'Mhlith y meirw, mwy nid yw. 'Does ond llieniau yn y beddrodd, Napcyn fu oddeutu'i ben; Y mae'n Harglwydd wedi gorfod, 'R hwn 'fu was sy 'nawr yn ben; Mae'n ddifraw, gwelwch draw, Bob awdurdod yn ei law. De'wch ddisgyblion llesg ac ofnus, De'wch ymlaen yn ddi-naccâd; "Gwelwch," medd yr Oen cariadus, "Gwelwch fy nwylaw am traed: De'wch yn hy, teimlwch fi, 'R hwn fu farw ar Galfari." "Tyred Tomas anghrediniol Rho'th law yn ôl y wayw-ffon; Dy fysedd dôd yn ôl yr hoelion, Gwel yr archoll dan fy mron: Nac ammeu'n hwy, gwel fy nghlwy Na fyd anghredadwy mwy." Ffryndiau'r Iesu, beth yw'r ofnau Cyfarfod 'nawr a'r angau glâs; Mae ei golyn wedi' dynnu, A'i wenwyn wedi' sugno ma's: T'wysog hedd, yr un wedd A sancteiddiodd i ni'r bedd. Dilyn 'rych yr Oen cariadus Ei ganlyn cewch trwy angau a'r bedd; Yna cewch drag'wyddol orphwys, Gyd ag ef mewn newydd wedd: Trigfannau sy', yn barod fry' Ar fyrder i'ch croesawu chwi.John Thomas 1730-1803/4 Diferion y Cyssegr 1802 [Mesur: 8787337] |
the Lord lay. Matt. 27:6.) Ye weak ones who are under mourning, Grieving spending your life, Fear not, ye who are seeking Jesus, Him who died on the cross: Ye weak ones come, be strengthened, To feast on his love ye shall get. Come and see where lay Christ the Lord and King of peace; He paid in full your debt Before being put in a new grave; Israel of God, he is alive, Amongst the dead he is no more. There are only sheets in the tomb, A napkin that was around his head; The Lord has overcome, He who was a servant is now Head He is fearless, see yonder, All authority is in his hand. Come ye disciples feeble and fearful, Come along without refusing; "See ye," says the loving Lamb, "See my hands nad my feet: Come boldly, feel me, Him who died on Calvary." "Come thou, unbelieving Thomas, Put thy hand in the mark of the spear; Thy fingers put in the mark of the nails, See the wound under my breast: Doubt no longer, see my wound Do not be unbelieving any more." Friends of Jesus, what are the fears Of meeting now with utter death; Its sting has been taken away, And its poison sucked out: The Prince of peace, in the same way Has sanctified for us the grave. Ye follow the loving Lamb Ye make follow him through death and the grave; Then ye shall have eternal rest, Together with him in a new image: There are dwellings, ready above Quickly to welcome you.tr. 2021 Richard B Gillion |
|