Clywaf lais gan bob rhyw raddau

(Crist y trysor goreu)
1,2,3,4;  1,4,5,6;  1,2,7.
Clywaf lais gan bob rhyw raddau
  O'r creaduriaid mân i gyd,
'Mod i wedi aros gormod,
  Hepian llawer yn y byd;
Gwisg dy aden, medd pob tafod
  Glywaf dan yr awyr las;
Gormod hepian; maen ddiweddar
  Cyn it ddechreu taro i maes.

Ffarwel bellach, bob creadur,
  Chwi gewch weled hyn ryw bryd,
Meddaf drysor gwerthfawrocach
  Fil o weithiau nag yw'r byd;
Tu hwnt i'r bedd
    'does mesur arnot
  Rhan o fewn fy nghalon mae;
Ffynnon fawr ydyw ei wreiddyn,
  Fyth na welir arni drai.

A welodd haul erioed wrth redeg
  Ei dro diderfyn yn y nef,
Yn y sêr, neu ar y ddaear,
  Wrthddrych tebyg iddo ef?
A oes trysor, ond ei 'mofyn,
  Yn nyfnderoedd daear las,
I'r filfed ran, pan yn y glorian,
  Bwysa Iesu Grist a'i ras?

Nerth, os caf,
    mi frysiaf mwyach
  Fyny tua'm gwlad fy hun,
Lle mae'm Duw yn gwisgo'n gysson,
  Mewn gogoniant, natur dyn;
Na enwer imi'n gartref bellach
  Fangre arall ond y ne',
Neb yn Dad, na neb yn Briod,
  Neb yn Arglwydd, ond efe.

Gwêna arnaf, D'wysog bywyd,
  Yna gwged arna'i 'r byd;
Ynot f'enaid sy'n ymddiried
  Uwch law meibion Adda i gyd;
Rho addewid byddi gydaf,
  Unrhyw rwystr îs y nef,
Doed o'r ddae'r neu uffern gadarn,
  Ofnaf ddim o hono ef.

Ti yw gwrthrych mawr fy ofnau,
  Gwrthrych fy llawenydd gwir;
Atat mae fy nymuniadau,
  Atat mae fy ngobaith pur;
Pob peth eto welodd llygad
  A ddiflanodd arna'i 'n lân,
Aeth eu bôd, ac aeth eu henwau,
  Oll yn ddiddim o fy malaen.

Tyr'd i fyny o'r anialwch,
  Wedi aros yno'n hir;
Sypiau grawn-win mawrion addfed,
  Sy'n dy aros yn y tir:
Brysia i ryfel, gwisg dy arfau,
  Cymer galon, mentra 'mlaen;
Y ffordd nis colli, mae'n dy arwain,
  Gwmwl niwl a cholofn dân.

              - - - - -
(Diofalwch a pherygl pechadur)
Clywaf lais gan bob rhyw raddau
  O'r creaduriaid mân i gyd,
Fy mod i wedi aros gormod,
  Hepian llawer yn y byd;
Gwisg dy arfau, medd pob tafod
  Glywaf dan yr awyr lâs;
Gormod hepian; maen ddiweddar
  Cyn it' ddechreu taro i maes.

Y mae'r oriau yn fy ngalw
  Beunydd i ymbarotoi:
Tân sy'n dod
    ar ddinas distryw,
  Tua Sôar gwna 'mi ffoi!
Arglwydd, 'mafael ynwy'n fuan,
  Onide ni ddeuaf byth;
Tra bo'r tân yn llosgi Sodom,
  Yn y bryniau gwnaf fy nyth.
William Williams 1717-91

Tonau [8787D]:
Corinth (Samuel Webbe 1740-1817)
Diniweidrwydd (alaw Gymreig)
Dismission (J F Wade / S Webbe)
Esther (John Roberts 1822-77)
Joseph (T Price)
  Jordan

gwelir:
  Fy enaid 'hed tu a'th etifeddiaeth
  Henffych Iesu'r Duw tragwyddol
  Wyneb siriol fy anwylyd
  Y mae'r haulwen wedi blino
  Y mae'r oriau yn fy ngalw

(Christ the best treasure)
 
I hear a voice from all kinds of degrees
  Of all the small creatures,
That I have waited too much,
  Dozing much in the world;
Wear thy wings, say every tongue
  I hear under the blue sky;
Too much dozing; it is late
  Before it begins to strike out.

Farewell henceforth, every creature,
  Ye shall get to see this some time,
I shall possess a treasure a thousand times
  More valuable than is the world;
Beyond the grave
    there is no measure upon thee
  A part within my heart it is;
A great fount is its root,
  It shall never be seen ebbing.

Did the sun ever see, running
  Its endless course in heaven,
In the stars, or on the earth,
  Any object similar to him?
Is there any treasure, only sought,
  In the depths of the blue-green earth,
To the thousandth part, when in the scales,
  That weighs Jesus Christ and his grace?

Strength, if I may get,
    I shall hurry henceforth
  Up towards my own land,
Where my God is wearing constantly,
  In glory, the nature of man;
No home is named for me henceforth
  No other dwelling but heaven,
None as Father, nor any as Spouse,
  None as Lord, but he.

Smile upon me, Prince of life,
  Then let the world frown upon me;
In thee my soul is trusting
  Above all the sons of Adam;
Promise thou wilt be with me,
  Any obstacle under heaven,
Be it from the earth or strong hell,
  I shall fear none of it.

Thou art the great object of my fears,
  The object of my true joy;
To thee are my desires,
  To thee is my pure hope;
Everything an eye yet saw
  Has vanished upon me completely,
Their being went, and their names went,
  All to nothing before me.

Come up from the desert,
  Having stayed there long;
Clusters of large, mature grapes,
  Are awaiting thee in the land:
Hasten to battle, wear thy weapons,
  Take heart, venture on;
Do not lose the way, leading thee are
  A cloud of fog and a pillar of fire.

                 - - - - -
(The carelessness and danger of sinners)
I hear a voice from every degree
  Of all the small creatures,
That I have waited too long,
  Snoozing much in the world;
Wear thy weapons, says every tongue
  I hear under the blue sky;
Too much snoozing; it is late
  Before thou begin to set off.

The hours are calling me
  Daily to prepare myself:
Fire which is coming
    on the city of destruction
  Towards Zoar is making me flee!
Lord, take hold of me soon,
  Lest I never come;
While the fire be burning Sodom,
  In the hills I shall make my nest.
tr. 2018 Richard B Gillion
 
 



















Have the glorious Luminaries,
  From their Rising to their Set,
In the vast extensive Heavens
  With such Object ever met?
Are their Treasures in the Mountains,
  Or the Bottom of the Sea,
In the thousandth Part as precious
  As my dear Redeemer be?






































                 - - - - -
 









Ev'ry Hour doth call, "Be ready,
  Haste to Zoar, there to remain;
Fire and Brimstone
    hover over
  All the Cities of the Plain."
Snatch me from the Conflagration,
  Jesus, draw me by the Hand,
Lest I love my ancient Dwelling,
  And transgress thy great Command.
tr. William Williams 1717-91

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~