Clywch lais ac uchel lêf tôn Telynorion Nêf

1,2,(3,4,5,6,7,8,(9,10),11,12).

                   Esay ix.6.
      Bachgen a anwyd i ni,
      Mab a roddwyd i ni,
      a bydd y Llywodraeth ar ei ysgwydd ef:
      a gelwir ei Enw ef,
      Rhyfeddol, Gynghorwr,
      Y Duw Cadarn,
      Tad tragywyddoldeb,
      Tywysog tangnefedd.

1.
  Clywch lais ac uchel lêf,
  Tôn Telynorion Nêf,
      I'r Baban byw,
    OEN DUW pan anwyd ef,
  Yn swnio îs-law'r sêr,
  Nadolig bwysig bêr,
      Gan beraidd flês,
  Tôn addas foliant Nêr,
O'r llu nefolaidd Weddaidd wawr,
Bu'n gwel'd eu Brenhin fyddin fawr,
  Yn sugno bronnau'i blentyn,
    Sef llwchyn
            gwael y llawr;
Ac wrth wel'd hwnw a'i Enw IÔR,
A'i Air a gylchai ymylau'r môr,
  Yn gwisgo'r natur ddynol,
    Fe ganai'r nefol Gôr.

2.
  Gwel'd Barnwr mawr y bŷd,
  Y Gair gan Fair yn fûd,
      Y Gŵr a'i gwnaeth,
    Yn cael magwraeth c'ŷd;
  Ei fagu i drechu Draig,
  Ar rinwedd bronau gwraig,
      Troi'r llŵch yn llaeth,
  Er crŷ' fagwraeth Craig:
Fe sỳnai'r nefol
        lesol lu,
Am wisgo'u Brenin yn y bru,
  Mewn corph o bridd daearol,
    Y natur ddynol ddu;
Ar y rhyfeddod hynod hyn,
Mae'r nefol gwm'ni'n
        sylwi'n sỳn,
  Sef geni, marw, a chladdu,
    DUW 'mhlith ei deulu'n dỳn.

3.
  Cyd-unwn ninnau'n awr,
  Ym moliant IESU mawr,
      A'r dyrfa hon,
    Drigolion llymion llawr;
  Am dd'od o'n Meichiau mwyn,
  I'r ddalfa, caetha' cwyn,
      A'i gadarn fraich,
  O dan ein baich i'n dwyn;
Pan daeth ENEINIOG doeth y Ne'
I'r grôth, daeth Sinai gyd âg E',
  I wel'd a ddiangai'n PRYNWR,
    Rhag llwgwr yn y lle;
Ond IESU'n cadarn D'WYSOG cu,
Wrth ymladd brwydyr yn y bru,
  Aeth dan ein pechod gwreiddiol,
    Er gwaetha'r diafol du.

4.
  'Nol medru o'r gelyn mawr,
  Gael dyn mewn munud awr,
      Sef Adda a'i ryw,
    'N elynion DUW i lawr,
  Gan lygru a drygu drŷch,
  A gwêdd yr enaid gwych,
      Gwnai'i neuadd lân,
    Yn weithdŷ Satan sych;
Ac wedi bwrw delw DUW,
O'r enaid sanctaidd loywaidd liw,
      Ei hunan daeth y gelyn,
  Yn ben ar bob dyn byw,
Gan ddwyn drachefn ei ddodrefn ddu,
Ac anghlod rost
        i gonglau'r tŷ,
  Hên Deml DUW ei hunan,
    Yn balas Satan bu.

5.
  Ein codwm cwlwm câs,
  A lenwai'r ddaear lâs,
      O lîn i lîn,
    A phläau blîn eu blâs;
  Marwolaeth ar bob dyn,
  A ddaeth o gamwedd un;
      Llu'r ddaear sy,
    Oll wedi llygru eu llun:
Pob rhyw greadur eglur aeth,
Ei ddyddiau i gyd
        i ddiodde'n gaeth,
  O achos dyn a'i bechod,
    O ddiwrnod chwerw a ddaeth!
O'r anifeliaid 'r un ni fu,
Nâ'r rhyw Asgellog lwythog lu,
  Na physg y môr heb boenau,
    Eu sŵn yn dioddau sy'.

6.
  Ond O! anfeidrol fwy,
  Nâ sain eu hochain hwy,
      Gwel'd BRENIN Nê',
    Yn gleisiau dan ei glwy';
  Yr unig bwysig ben,
  O'r bru heb
          lygru ei len,
      A ddaeth i'r byd,
    Â'i wisg i gyd yn wen;
Y gŵr â'i lêf, rhagorol un,
A gw'yd y meirw'n loyw lun,
  Ar bren y groes yn marw,
    Ar ddelw anwir ddyn;
Ond gan ei farw, gwyn ei fyd,
Yr enaid dua gwanna' i gyd,
  Sy'n ffoi er
          maint ei feiau,
    I'w freichiau'n hyn o fyd.

7.
  Gan eni o Fair yn fyw,
  Ddyn sanctaidd rhyfedd ryw,
      Er maint ein bai,
    Fe ddygir rhai at DDUW;
  Mae i'r euog ofnog un,
  Flinderog lwythog lun,
      Rhag Dwyfol lîd,
    Le ddiengyd, waela ddyn,
I'r euog rai dan Sinai sydd,
Anrhegu wnaeth yn Arfaeth rydd,
  Drysorau a dalai'n dyled,
    I'r Ddeddf ar doriad dydd:
A hwnnw yw'r anrheg gwyndeg fawr,
Gan Fair a welwyd gyd â'r wawr,
  Sy'n cynnwys pob trysorau,
    Mae'n llenwi Nêf a llawr.

8.
  Daeth perlau'r Nêf yn awr,
  Mewn Blwch o lwch i lawr,
      O fewn i hwn,
    Ca'dd myrddiwn eiddo mawr;
  Pob bendith fwya'i budd,
  Er rhoddi'r caeth yn rhydd,
      Danfonai'r Tâd,
    Dan gauad hwn yn gudd;
Ond wrth ei guro,
        a'i ddryllio'n ddrud,
Ei werthfawr berlau ddaeth i'r byd,
  I gyfoethogi'r tlodion,
    Blant dynion meirwon mud;
Ca'dd aml fyddar glaiar glyw,
A dall ei olwg amlwg yw,
  A llawr enaid marw
    Ail-wisgo delw Duw.

9.
  Daeth Perl maddeuant pur,
  Am bechod sorod sur,
      Tryw Grist i'n rhan,
    O dan yr hoelion dur;
  Perl hynod, cymmod caed,
  Trwy ei rinweddol waed;
      Dwyn gelyn ffôl
    At Dduw yn ol a wnaed:
Cael dyn yn rhydd o tan y rhôd,
Oedd pwrpas grasol nefol nôd,
  Dyfodiad Crist i feudy;
    Mae gwaith rhyfeddu i fod!
Rho'i gefn i'r curwyr,
        gleiswyr glew,
A'i genau i'w rhwygo,
        wrth blỳcio'r blew,
  Rhwng torf o
          blant y diafol,
    Yr hen elynol lew.

10.
  Da'i'n MEICHIAU
          yn mhob man,
  Trwy'r rhyfel ar ein rhan,
      A'r gwaith i gyd,
    Er pawb a'i lid, i'r lan;
  Er grym holl uffern gref,
  A'i twyll, y'mlaen aeth Ef
      Boddloni wnaeth,
    Hen arfaeth Brenin nêf:
Rhag coron ddreiniog, lidiog loes,
A'r cleddyf llym, mewn grym, a'r groes,
  Na gwradwydd mawr a phocredd,
    Maith, ryfedd, Ef ni throes:
Am hyny cyflawn iawn yw Ef,
Dros dorf aneirif yn y nêf;
  Ein Duw a'n Noddfa dawel,
    Mae'n Graig ddiogel grêf.

11.
  A hyn i gyd a ga'dd,
  Pechadur isel radd,
      Trwy'r MEICHIAU o'r Nê'
    Ga'dd yn ei le ei ladd;
  Ni thaled dyled dyn,
  Ne's hoeliwyd Ef ei hun,
      A'i werthu o wawd
    I'w lâdd yn d'lawd ei lun:
Mawr lîd gelynion creulon crôch,
Ddioddefai o'i fôdd,
        ni dd'wedodd, Och,
  Er fod gan waed a gofid,
    Ei gorph i gyd yn gôch;
Ond o'i fawr ing,
        a'i gyfyng gûr,
'Doi moddion Meddyg
        pwysig pûr,
  I ddyn 'r ol bwyta pechod,
    Sy'n safio'r
            ddincod sûr.

12.
  Ein PRYNWR ar y pren,
  Wnai'r pyrth yn llêd y pen,
      O'r Nefoedd fawr,
    I'r llawr fe rwygai'r llen;
  Fe dorrodd T'WYSOG HEDD,
  Holl gloïau a barïau'r bêdd,
      Lle i'r nefol hâd,
    'Dd'od adre' i wlad y wlêdd;
Ond porth pwll diafol,
        'ffernol ffau,
Trwy ddirfawr gûr
        fe ddarfu ei gau,
    Gan gario frŷ'r agoriad,
      Mae'r rhwymiad yn parhâu.
Ond cael ein BARNWR i ni'n ben,
I'n dwyn yn llwyr i mewn i'r llen,
  Yng ngwyneb Angeu chwerw,
    Ni a waeddwn, Marw, Amen.
Yn swnio îs-law :: Yn seinio îslaw
magwraeth :: magwriaeth
sanctaidd loywaidd :: perffaith lân-waith
balas Satan bu :: balas Satan sy'
Nâ'r rhyw Asgellog lwythog :: Na pherchen aden, lawen
yn dioddau :: yn dyoddef
gan ei farw :: er ei farw
freichiau'n hyn o fyd ::        
        :: freichiau â'i holl fyd
        :: freichiau yn unfryd
gyd â'r wawr :: efo'r wawr
Danfonai'r Tâd :: Anfonai'r Tâd
Pechadur isel radd :: Pechadur eglur radd
Ne's hoeliwyd Ef ei hun :: Nes hoelio Crist ei hun
werthu o wawd :: werthu i wawd
Mawr lîd :: Du lîd :: Tan lîd
'Doi moddion :: Da'i moddion
'r ol bwyta :: 'n ol bwyta
ddincod :: dincod
Wnai'r pyrth yn llêd y pen :: A wnaeth y ffordd i'r nen

1798 Edward Jones 1761-1836

Tôn [12.10.12.10.8.8.13.8.8.13]:
    Conceit/Consêt/Difyrwch gwŷr y Gogledd


                   Isaiah 9:6
      A Boy has been born to us,
      a Son has been given to us,
      and the Government shall be on his shoulders:
      and his Name shall be called,
      Wonderful, Counsellor,
      The Mighty God,
      the Father of eternity,
      the Prince of peace.

1.
  Hear a voice with a loud cry,
  The tune of the harpists of Heaven,
      To the living Baby,
    The LAMB OF GOD when he was born,
  Sounding below the stars,
  An important, sweet nativity,
      With a sweet zest,
  A tune worthy of the MASTER's praise,
From the host of a heavenly, fitting dawn,
Which saw their King of a great army,
  Sucking the breasts of his child,
    That is a base speck of
            the dust of the ground;
And on seeing him and naming him LORD,
Whose Word would wash the shores of the sea,
  Wearing the human nature,
    The heavenly Choir would sing.

2.
  Seeing the great Judge of the world
  The Word by Mary mute,
      The Man who made her,
    Getting brought up;
  Nurtured to overcome the Dragon,
  On the merit of the breasts of the woman,
      Turning the dust into milk,
  For the strong upbringing of the Rock:
He would surprise the heavenly,
        beneficial host,
For clothing their King in the womb,
  In a body of earthly soil,
    The black, human nature;
On this notable wonder,
The heavenly company is
        remarking surprisedly,
  Namely, the birth, death and burial,
    Of God amongst his family as man.

3.
  Let us unite together, for our part, now,
  In the praise of great JESUS,
      With this throng,
    Poor inhabitants of the earth below;
  For the coming of our gentle Surety,
  To the prison, a most captive plaint,
      With his strong arm,
  From under our burden to bring us;
When the wise ANOINTING of Heaven came
To the womb, Sinai came with Him,
  To see whether our REDEEMER would escape
    From corruption in the place;
But JESUS our dear, strong PRINCE,
Through fighting a battle in the womb,
  Underwent our original sin,
    Despite the black devil.

4.
  Following the ability of the great enemy,
  To get man in a moment,
      That is, Adam and his kind,
    As an enemy of GOD down below,
  By corrupting and spoiling the condition
  And appearance of the noble soul,
      He would make the holy hall,
    Into an austere workhouse of Satan;
And after casting the image of GOD,
From the holy soul of a clear colour,
      The enemy himself became
  Head over every living man,
By taking back his black utensils,
And roasted dishonour
        to the corners of the house,
  The old Temple of GOD himself,
    The palace of Satan was.

5.
  Our fall of a detestable knot,
  Which would fill the blue-green earth,
      From line to lin,
    With plagues grievous their taste;
  Mortality on every man,
  Which came from a trespass of one;
      The host of the earth are
    All having had their image corrupted:
Every kind of clear creature went,
Their days altogether
        to suffering as captive,
  Because of man and his sin,
    From bitter day which came!
From the animals any one there was not,
Nor the kind of Winged, abundant host,
  Nor the fish of the sea without pains,
    Their sound which was suffering.

6.
  But oh, more immeasurable
  Than the sound of their groaning,
      To see the KING of Heaven,
    Bruising under his wound;
  The only important head,
  From the womb without
          corrupting his sheet,
      Who came to the world,
    With all his clothing white;
The man with his cry, an excellent one,
Who raises the dead as a clear image,
  On the wood of the cross dying,
    Over the false image of man;
But by his dying, blessed be he,
The blackest, weakest soul altogether,
  Is fleeing despite
         the extent of his faults,
    To his arms in such a world as this.

7.
  By being born of Mary alive,
  A holy man of an amazing kind,
      Despite the extent of our fault,
    Such are to be brought to GOD;
  There is for the guilty, fearful one,
  Of an oppressed, burdened image,
      From Divine wrath,
    A place of escape, most wretched man,
For the guilty ones who are under Sinai,
Bestow he did as a free intention,
  Treasures which would pay our debt,
    To the Law at the break of day:
And he is the great, fine gift,
By Mary who was seen with the dawn,
  Who is containing all treasures,
    He is filling Heaven and earth.

8.
  Pearls of Heaven now came,
  In a Box of dust down to earth,
      Within him,
    Myriads got a great possession;
  Every blessing of greatest gain,
  To set the captive free,
      The Father would send,
    Hidden under this cover;
But through his being beaten,
        and broken dearly,
His valuable pearls came to the world,
  To enrich the poor,
    The dead, mute children of men;
Many deaf got to hear clearly,
And a blind one his sight is visible
  A many a dead soul
    Wearing again the image of God.

9.
  A Pearl of pure forgiveness came,
  For the sin of bitter dross,
      Through Christ on our behalf,
    Under the steel nails;
  A notable Pearl, an agreement is had,
  Through his virtuous blood;
      Bring a foolish enemy
    Following behind to God he did:
For man to get free from under the sky,
Was the gracious purpose of a heavenly aim,
  The coming of Christ to a cowshed;
    There is a work of amazing to be!
To give his back to the beaters,
        bold bruisers,
And his cheeks to be torn,
        while plucking the whiskers,
  Amidst a crowd of
          the children of the devil,
    The old, hostile lion.

10.
  He would come as our SURETY
          in every place,
  Through the war on our part,
      And all the work,
    For everyone with his wrath, up;
  Despite the force of all strong hell,
  Its deceit, He he took forward
      Satisfy he did,
    The old intention of the King of heaven:
From a thorny crown, wrathful throes,
And the sharp sword, in force, on the cross,
  Nor great shame and spitting,
    Vastly, wonderfully, He did not turn:
Therefore very full is He,
For an innumerable throng in heaven;
  Our God and our quiet Refuge,
    He is our strong, safe Rock.

11.
  And all this a sinner
  Of low degree has got,
      Through the SURETY from Heaven
    Who got killed in our place;
  Man's debt was not to be paid,
  Until He himself was nailed,
      And sold out of mockery
    To be killed with a poor appearance:
The great wrath of cruel, strident enemies,
He would suffer voluntarily;
        he didn't say, Alas,
  Although being under blood and grief,
    His body altogether red;
But from his great agony,
        and his narrow beating,
Shall come the pure medicine
        of the important Physician,
  To man after eating sin,
    Saving the bitter setting
            on edge of the teeth.

12.
  Our REDEEMER on the tree,
  Would make the portals wide open,
      From the great Heaven,
    To the earth he would tear the curtain;
  The PRINCE OF PEACE broke
  All the locks and bars of the grave,
      Where for the heavenly seed,
    To come home to the land of the feast;
But a gate of a diabolical pit,
        an infernal lair,
Through an enormous beating
        he forced its closure,
    While carrying up the key,
      The bondage is continuing.
But to get our JUDGE as a head for us,
To lead us completely inside the curtain,
  In the face of bitter Death,
    We shall shout, Die, Amen.
::
::
holy soul of a clear :: perfect soul of a cleanly made
palace of Satan was :: palace of Satan is
Nor the kind of Winged, abundant :: Nor possessors of wings, a joyful
::
by his dying :: for his dying
arms in such a world as this ::        
        :: arms with his whole intent
        :: arms with one intent
::
::
a sinner of low degree :: A sinner of clear degree
Until He himself was nailed :: Until the nailing of Christ himself
sold from mockery :: sold to mockery
Great wrath :: Black wrath :: Under the wrath
::
::
::
Would make the portals wide open :: Has made the way to the sky

tr. 2014 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~