Cod d'olwg, f'enaid, fynu fry, A gwel yr Oen ar Galfari, Yn dyodde'n ddiddig ac yn fwyn, Wedi 'gondemnio er ein mwyn, Edrychwch arno dyma'r Dyn, A phwy oedd Ef ond Duw ei hun; Pechodau'r holl grediniol fyd A bwysodd ar ei 'sgwyddau 'nghyd. O feiau mawr beth all'sech fwy Na rhoddi i Frenin nefoedd glwy; Lladdasoch Ef - fe drodd y rhod, Mae dydd eich dial chwithau'n dod. - - - - - Fy enaid cwyd dy olwg fry, A gwel yn Oen ar Galfari; Creawdwr daear lawr a'r ne', Yn rhoi ei fywyd yn ein lle. Edrychwn arno, dyma'r Dyn, A phwy yw Ef, ond Duw ei hun! Pechodau'r holl druenus fyd A bwysant arno Ef yn nghyd. O feiau mawr! beth all'sech fwy Na rhoi i Frenin nefoedd glwy': Lladdasoch Ef! - fe drodd y rhod, Mae dydd eich dial chwithau'n dod.William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir: Cyfyngder mwya'n Prynwr rhad Does arnaf eisiau yn y byd Gwel ar Galfaria dyma'r dyn O feiau mawr 'beth all'sech fwy? Wrth edrych Iesu ar dy Groes |
Raise thy gaze, my soul, up above, And see the Lamb on Calvary, Suffering placidly and tenderly, Having been condemned for our sake. Look ye upon him, behold the Man, And who was he but God himself; The sins of all the created world Weigheddddd upon his shoulders altogether. O great faults what could ye do more Than give to the King of heaven a wound; Ye slew him - he turned the sky, The day of your own retribution is coming. - - - - - My soul, raise thy gaze above, And see the Lamb on Calvary; The Creator of the earth below and heaven, Giving his life in our place. Let us look upon him, here is the Man, And who is he, but God himself! The sins of the whole wretched world Weight upon him altogether. O great faults! what could ye do more Than give the King of heaven a wound: Ye slew Him! - he turned the sky, The day of your own retribution is coming.tr. 2020 Richard B Gillion |
|