Crist a gyfododd, gwag yw Ei fedd; - Feirwon holl oesau'r byd, llon fo eich gwedd: Gwawr euraidd d'wynna, nos ymaith hed - Brysiwch, ddisgyblion llon, taenwch y gred! Mawl fo'n ymdaenu; byd llawn o hedd: Heddyw cyfododd Crist, gwag yw Ei fedd! Molwch, belydrau, dawnsiwch i gyd; Cenwch, holl wyntoedd Duw, fawl dros y byd. Molwch Ef, flodau, gwridog eich gwedd; Awdwr eich tlysni chwi gododd o'i fedd! Gauaf ymgiliodd; gwenwch, bob un, Cododd fel blod'yn Duw, - Crist, bywyd dyn! Gwelwch lle'r hunodd: neb mwy fo'n brudd; Mwy, yn lle prudd-der nos, gwena mwyn ddydd! Clywch! lleisiau engyl ddisgyn o'r ne'; Ninnau a ganwn oll - Byw yw Efe!cyf. David Adams (Hawen) 1845-1923
Tôn [9.10.9.10]: Crist a Gyfododd |
Christ arose, empty is his grave; - Ye dead of all the ages of the world, cheerful be your countenance: A golden dawn shines, night flies away - Hurry, cheerful disciples, spread the belief! May praise spreading; a world full of peace: Today Christ arose, empty is his grave! Praise, ye rays, dance ye all; Sing, all ye winds of God, praise across the world. Praise him, ye flowers, ruddy your countenance; The author of your prettiness arose from his grave! Winter retreated; sing ye, every one, He arose like the flower of God, - Christ, the life of man! See where he slept: no longer let anyone be sad; Evermore, in place of the sadness of night, shall smile the dear day! Hear ye! voices of angels descend from heaven; Let us too all sing - Living is he!tr. 2021 Richard B Gillion |
|